Cyhoeddi cynllun 拢9m i 'helpu trefi Cymru'

Disgrifiad o'r llun, Canol tref Y Rhyl - lleoliad cyhoeddiad y cynllun newydd
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Wrth i bobl fentro yn 么l i'r siopau ar y stryd fawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwerth 拢9m i adfer hyder yn nhrefi Cymru.

Nod y buddsoddiad gafodd ei gyhoeddi yn Y Rhyl ddydd Mawrth yw helpu busnesau i addasu eu siopau i fasnachu yn unol 芒 chanllawiau diogelwch y llywodraeth.

Wrth gyhoeddi'r cynllun fe ddywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fod y buddsoddiad yn gam at sicrhau fod canol trefi Cymru "yn ffynnu".

Mae disgwyl i 拢3.7m o'r arian gael ei glustnodi ar gyfer cymoedd y de i helpu'r "rhanbarth i weithio'n agosach".

Ffynhonnell y llun, Plaid Lafur

Disgrifiad o'r llun, Mae'n hanfodol, medd Hannah Blythyn, bod unrhyw gamau tymor byr yn cael effaith hirdymor ar ganol trefi

Mae hi bellach dros dair wythnos ers i siopau yng Nghymru ailagor eu drysau a phob un yn edrych yn dra gwahanol i fywyd cyn y cyfnod clo.

O sgriniau diogelwch i hylif diheintio - maen nhw'n bethau cyffredin a hanfodol erbyn hyn.

Ond mae'r newidiadau oll wedi costio, gyda nifer o fusnesau wedi gorfod talu o'u coffrau eu hunain.

"Da ni yn pryderu am ganol trefi yma yn Sir Ddinbych ac yng Nghymru gyfan," meddai'r Cynghorydd Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych.

"Mae'r datganiad yma yn medru rhoi hyder i bobl i ddod i mewn a buddsoddi mewn gwahanol elfennau o'r trefi sy'n mynd i neud i bobl deimlo'n saff a sy'n mynd i helpu ni i gynllunio o gwmpas Covid-19".

"Mae'n adeg bwysig r诺an - da ni isho gwneud yn si诺r bod pobl yn teimlo mor saff ag y medren nhw felly mae'n bwysig."

Nwyddau ar gael

O dan y drefn newydd fe allai busnesau wneud cais am nwyddau ar gyfer hwyluso manwerthu. Y math o nwyddau fydd modd eu prynu yw cysgodlenni awyr agored, byrddau a chadeiriau awyr agored, sgriniau awyr agored, bolardiau a blychau planhigion.

Yn 么l Hannah Blythyn: "Mae buddsoddi yng nghanol ein trefi mor berthnasol ag erioed.

"Gan nad ydym yn gwybod eto am yr effaith a gaiff coronafeirws ar ganol ein trefi, mae'n hanfodol bod unrhyw gamau yn y tymor byr yn cael effaith hirdymor ac yn gwella golwg a theimlad canol ein trefi."

Disgrifiad o'r llun, Siop Bys a Bawd yn Llanrwst

Un sydd eisoes wedi gwneud newidiadau ydi Siop Bys a Bawd yn Llanrwst, ac yn 么l y perchennog Dwynwen Berry, mae "unrhyw beth yn help."

"Da ni wedi gwario tipyn ar hylif diheintio dwylo a dwi'n gweiddi ar bawb am hynny er mwyn i bobl allu cyffwrdd y nwyddau," meddai.

"Mae gynom ni sgrin ac arwyddion ar y lloriau ac yn bob man.

"Da ni wedi gwario lot, mae gynom ni ddiheintydd sy'n gweithio hefo pedal, ond mae well gennai hynny a theimlo bod ni wedi gwneud y gorau fedrwn ni."

"Unrhyw beth sy'n helpu busnesau bach, canol trefi ac yn y blaen i ddod dros y cyfnod anodd iawn 'ma".

Mae disgwyl i'r arian fod ar gael tan ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.