Cadarnhau taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m rygbi'r Llewod wedi cadarnhau y bydd y daith i Dde Affrica yn digwydd yn 2021.
Bydd y Llewod yn chwarae tair g锚m brawf yn erbyn y Springboks, sy'n bencampwyr y byd, er gwaethaf yr ansicrwydd yn sgil y pandemig.
Fe fydd pum g锚m arall yn rhan o'r daith, gan gychwyn yn erbyn y Stormers yn Cape Town ar 3 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Fe fydd y tair g锚m brawf yn Johannesburg ar 24 Gorffennaf, Cape Town ar 31 Gorffennaf ac yn 么l i Johannesburg ar gyfer y prawf olaf ar 7 Awst.
'Eglurder i'r holl gefnogwyr'
Dywedodd Ben Calveley, cyfarwyddwr y Llewod: "Mae'r pandemig Covid-19 wedi achosi llawer o amharu ar y calendr chwaraeon, ond yn dilyn trafodaethau helaeth gallwn gadarnhau y bydd y daith yn digwydd.
"Mae llawer iawn o drefnu angen ei wneud i roi taith y Llewod at ei gilydd, felly roedd yn hanfodol ein bod wedi cytuno ar benderfyniad yn brydlon.
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi rhywfaint o eglurder i'r holl gefnogwyr y Llewod fydd yn awyddus i deithio i Dde Affrica yr haf nesaf."
Mae'r Llewod wedi teithio i Dde Affrica 13 tro yn y gorffennol, gan ennill pedair cyfres, colli wyth ac un yn gyfartal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020