大象传媒

Cefnogi uchafswm cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl

  • Cyhoeddwyd
20 myaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Aelodau'r Senedd wedi cefnogi cynlluniau'r llywodraeth i wneud ardaloedd lle mae pobl yn byw yn rhai gydag uchafswm cyflymder o 20 milltir yr awr.

Dywedodd y dirprwy weinidog trafnidiaeth, Lee Waters bod 80 o blant wedi'u lladd heu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf sydd 芒 ffigyrau cyflawn.

Ychwanegodd bod gostyngiad o 1% mewn cyflymder yn "debygol o arwain at ostyngiad o 6% yn y nifer sy'n cael eu hanafu".

Cymru 'ar ei h么l hi'

Cafodd pwerau ar gyfer cyflymder cenedlaethol ei ddatganoli i Gymru yn 2018.

Y llynedd fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod eisiau gweld mwy o lefydd gydag uchafswm cyflymder o 20mya.

Ac mae ymgyrchwyr hefyd wedi dweud bod Cymru ar ei h么l hi i gymharu gyda gweddill y DU ar y mater.

Ar Twitter cyn y drafodaeth yn y Senedd, dywedodd Waters: "Mae'n fater ar draws y pleidiau a bydd yn arbed bywydau.

"Mae modd ei gymharu gyda rhoi organau o safbwynt yr uchelgais a'r ymdrech sydd angen i'w weithredu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr eisiau cyflwyno'r cyfyngiadau mewn trefi a dinasoedd lle mae nifer o adeiladau

Dywedodd tasglu fod yna "dystiolaeth ysgubol" bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau a llai o anafiadau difrifol.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y byddai'r cyhoedd yn debygol o gefnogi'r newid ac roedd yn gosod allan y camau y byddai angen i'r llywodraeth ddilyn i'w weithredu.

"Mae newid y cyflymder i uchafswm 20mya yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol yn syml mewn termau cyfreithiol, ond mae'r goblygiadau yn eang a chymhleth.

"Dylai gael ei weld fel prosiect mawr i'r llywodraeth ac yn un lle y bydd angen llywodraethu mewn ffordd gref ac ymroddedig i wneud yn si诺r ei fod yn cael ei gyflawni yn llwyddiannus."

Codi ymwybyddiaeth

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd angen nifer o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Dywedodd y tasglu hefyd bod hi'n bwysig bod yr heddlu a GanBwyll, sef partneriaeth i leihau'r nifer sydd yn cael eu hanafu ar y ffyrdd, wedi ymroi i'r newid "fel bod ymddygiad gyrwyr yn dechrau newid."

Noda'r ddogfen hefyd mai penderfyniadau'r cynghorau fyddai clustnodi pa ffyrdd na ddylai orfod gweithredu'r uchafswm o 20mya.