AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi'i wahardd 12 mis
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi cael ei wahardd gan Blaid Cymru am 12 mis wedi iddo gael rhybudd heddlu am ymosod.
Fe wnaeth AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dderbyn y rhybudd ddiwedd Mehefin ar 么l cael ei arestio yn ei gartref ym mis Mai.
Dywedodd panel disgyblu Plaid Cymru bod "rhybudd am ymosod yn fater difrifol".
Ychwanegodd y panel: "Mae codi'r gwaharddiad ar 么l 12 mis yn ddibynnol ar Mr Edwards yn ymddangos gerbron y panel i ddangos ei fod wedi cymryd cyfnod i hunan fyfyrio a dysgu i fynd i ddelio 芒'i weithredoedd."
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn "derbyn penderfyniad y panel disgyblu yn llawn".
'Cydweithredu'n llawn'
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau wedi iddo dderbyn y rhybudd heddlu dywedodd Mr Edwards ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifar y digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".
Dywedodd datganiad ar ran ei wraig, Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ng诺r.
"Gydol y ddegawd yr ydym wedi bod gyda'n gilydd mae e wedi bod yn 诺r ac yn dad cariadus a gofalus. O'm rhan i mae'r mater bellach ar ben."
Dywedodd Plaid Cymru mewn datganiad ddydd Mercher: "Fe wnaeth Jonathan Edwards gyfeirio ei hun at broses ddisgyblu'r blaid a chydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad.
"Ar 么l ystyried yr holl dystiolaeth, fe wnaeth y panel osod gwaharddiad 12 mis o'r blaid."
Ychwanegodd y byddai Mr Edwards yn cael ei ddiarddel os yw'n "methu 芒 chadw at dermau'r gwaharddiad".
'Annerbyniol'
Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones bod y blaid yn "condemnio unrhyw ymddygiad sy'n disgyn yn is na'r hyn sy'n cael ei ddisgwyl o'n haelodaeth".
"Mae cyflymder a chanlyniad y broses ddisgyblu yn adlewyrchu difrifoldeb y blaid yn delio gyda'r mater.
"Mae pob math o aflonyddu, camdriniaeth a thrais yn annerbyniol, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y penderfyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd23 Mai 2020