大象传媒

Drakeford ddim am aros yn ei r么l tan ddiwedd y Senedd nesaf

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn arweinydd Llafur Cymru ers 2018

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn bwriadu cadw at ei gynllun i beidio aros yn y r么l am gyfnod llawn y Senedd nesaf os yw'n cael ei ailethol i'r swydd yn etholiad 2021.

Dywedodd Mark Drakeford, sy'n 65, ei fod yn gobeithio arwain Llywodraeth Cymru "ymhell i mewn i gyfnod y Senedd nesaf" ond y bydd hi'n "amser i rywun arall gael y cyfle i wneud y swydd" pan fydd tua 70 oed.

Ychwanegodd wrth raglen 大象传媒 Politics Wales mai dyma oedd ei fwriad "o'r cychwyn cyntaf".

Pan gyhoeddodd Mr Drakeford ei fod yn ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2018 dywedodd y byddai'n arwain y blaid trwy'r etholiad nesaf, ac, os yn llwyddiannus, yn sefydlu llywodraeth yn dilyn etholiad 2021.

Ond dywedodd bryd hynny y byddai'n camu o'r neilltu cyn diwedd cyfnod nesaf y Senedd i roi cyfle i "genhedlaeth newydd".

'Patrwm arferol'

Pan ofynnwyd iddo a oedd ei gynlluniau wedi newid yn dilyn dwy flynedd yn y r么l, dywedodd Mr Drakeford: "Dydy fy nghynllun ddim wedi newid ers i mi ei ddweud yn wreiddiol.

"Fy nghynllun i, os ydw i'n gallu gwneud hynny, ydy arwain y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr etholiad fis Mai nesaf.

"Os ydyn ni'n llwyddiannus fe fydda i'n ffurfio llywodraeth, ac fe fyddai'n bennaeth ar y llywodraeth ymhell i mewn i gyfnod y Senedd nesaf ac yna fy nghynllun yw rhoi'r r么l i rywun arall cyn yr etholiad nesaf.

"Fe fydd hi'n amser erbyn hynny i rywun arall wneud y swydd anodd a heriol yma - ac mae wedi bod yn fraint cael y cyfle i fod yn y r么l."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai hynny'n broblem i etholwyr yn yr etholiad y flwyddyn nesaf, dywedodd Mr Drakeford bod sefyllfaoedd tebyg wedi codi pan gafodd yr awenau eu pasio o Rhodri Morgan i Carwyn Jones, ac yn fwy diweddar o Mr Jones i Mr Drakeford.

"Dyma'r patrwm arferol yma yng Nghymru," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones gymryd r么l y Prif Weinidog a'i hildio yng nghanol cyfnod Seneddau

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies: "Dyw pobl Cymru ddim angen Prif Weinidog dros dro".

Yn 么 llefarydd ar ran Plaid Cymru mae'r pandemig "wedi ein dysgu bod arweinyddiaeth yn golygu dilyn pethau trwodd i'r pen".

Ychwanegodd arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless y byddai eu cynllun nhw i "ethol y prif weinidog yn uniongyrchol yn sicrhau bod ganddyn nhw wastad fandad democrataidd".

大象传媒 Politics Wales, 大象传媒 One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac yna ar yr iPlayer.