'Anodd perswadio pobl bod angen y cyfnod clo ynghynt'
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai wedi bod yn anodd perswadio pobl yng Nghymru o'r angen i gyflwyno'r cyfnod clo yn gynharach, yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford y cafodd y cyfnod clo ei orchymyn ar 23 Mawrth "yn fwy oherwydd cylchrediad y feirws yn Llundain... nag oherwydd ein bod ni'n meddwl bod y feirws eisoes mewn cylchrediad cyflym yng Nghymru".
Ond ni wnaeth "ddadlau" gyda sylwadau cyn-gynghorydd Llywodraeth y DU, yr Athro Neil Ferguson, y byddai nifer y marwolaethau Covid-19 yn y DU wedi bod yn is pe bai'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno wythnos ynghynt.
Dywedodd y prif weinidog iddo glywed y cyngor gwyddonol i orfodi'r cyfnod clo yn gyntaf ar y diwrnod ei hun.
'Cyfnod clo heb ei grybwyll cyn 23 Mawrth'
Dywedodd ei fod felly "wedi ei synnu ychydig" o glywed Syr Patrick Vallance, prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, yn dweud ddydd Iau y cynghorwyd Llywodraeth y DU i weithredu mesurau cloi yn gynharach nag y gwnaethant.
Wrth siarad 芒 rhaglen 大象传媒 Politics Wales dywedodd Mr Drakeford: "Dim ond ar y 23ain [o Fawrth] y cafodd Cobra [cyfarfodydd argyfwng Llywodraeth y DU] gyngor gan brif swyddog meddygol Lloegr yn cynrychioli ei gydweithwyr, a'r prif wyddonydd, bod angen cloi i lawr nawr.
"Felly, efallai fod y cyngor hwnnw mewn cylchrediad yn rhywle arall, ond yn sicr nid dyna'r cyngor rwy'n cofio ei glywed yn Cobra tan y 23ain ei hun."
Erbyn 23 Mawrth, pan gyhoeddwyd y cyfnod clo, roedd Cymru wedi cofnodi 16 o farwolaethau coronafeirws a 666 o achosion positif.
"Rwy'n credu, ar y pwynt y gwnaethom hynny, ei bod yn bosib argyhoeddi pobl o'r angen i'w wneud," meddai Mr Drakeford.
"Pe baem wedi ei wneud yn llawer cynt, rwy'n credu y byddai wedi bod yn anoddach i berswadio pobl yng Nghymru, o leiaf, bod y feirws mewn cylchrediad mor gyflym, bod angen set mor ddifrifol o benderfyniadau."
Ond mae cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Senedd, Dr Dai Lloyd yn dweud y gallai Cymru fod yn fwy parod pan gyrhaeddodd Covid-19 y wlad ym mis Chwefror.
Dywedodd nad oedd gan Gymru gapasiti priodol i brofi pobl, ac nad oedd digon o offer diogelwch personol ar gael.
Ychwanegodd yr AS Plaid Cymru, sydd hefyd yn feddyg teulu: "Gallwn ni fod wedi gwneud mwy".
Sefyllfa cartrefi gofal
Ym mis Mawrth ac Ebrill fe ryddhawyd dros 1,000 o gleifion ysbyty i gartrefi gofal Cymru heb brawf coronafeirws.
Mae'r 686 o farwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 27.8% o'r holl farwolaethau coronafeirws yng Nghymru.
Ar 14 Mehefin, cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai wedi gwneud "penderfyniadau gwahanol" ar nifer o bwyntiau yn ystod y pandemig.
'Ddim mor syml 芒 hynny'
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n credu efallai y bydden ni wedi gwneud penderfyniadau gwahanol, er fy mod yn credu bod y dystiolaeth yn dal i adeiladu.
"Felly, rydyn ni wedi cael llawer o gartrefi gofal yng Nghymru lle cafodd pobl eu rhyddhau heb brawf, nad ydyn nhw wedi cael un achos o coronafeirws, ac rydyn ni wedi cael cartrefi gofal lle na chafodd unrhyw un eu rhyddhau o'r ysbyty, lle bu coronafeirws.
"Felly, y syniad bod yna linell uniongyrchol sy'n dweud, 'oherwydd bod pobl wedi'u rhyddhau heb brawf, mi oedd hynny'n golygu bod y cartrefi gofal wedi'u heffeithio', nid wyf yn credu ei fod mor syml 芒 hynny."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn y cyngor gwyddonol, ond nid yw'r cyngor a dderbyniwyd yn ystod y misoedd cynnar wedi'i gyhoeddi - mae papurau'r Gell Cyngor Technegol sydd ar gael ar-lein ond yn cychwyn ar ddechrau mis Mai.
Dywedodd y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu "mynd yn 么l a chyhoeddi'r cyngor".
Profion yn arafu
Dangosodd y set ddiweddaraf o ffigyrau swyddogol fod y prosesu o brofion coronafeirws yng Nghymru yn arafu, er bod llai o brofion yn cael eu gwneud.
Yr wythnos ddiwethaf, dim ond 66.3% o'r canlyniadau a ddaeth yn 么l o fewn 48 awr - y perfformiad gwaethaf ers i'r argyfwng ddechrau.
Dirywiodd y mesur 24 awr hefyd, gyda 46.5% yn cael eu prosesu o fewn yr amserlen honno, ac fe gymrodd 16.5% fwy na thridiau i ddod yn 么l - y gyfran fwyaf eto.
Ar 7 Mehefin, dywedodd y prif weinidog wrth 大象传媒 Politics Wales mai ei "uchelgais" oedd prosesu profion Covid-19 yn gyflymach.
"Mae'n fwy cymhleth nag y sylweddolais, mae yna lawer o gamau ar hyd y ffordd yn y broses hon," meddai Mr Drakeford.
Ychwanegodd: "Fe roddai dim ond un enghraifft i chi; os bydd prawf yn cyrraedd labordy am 17:00 o'r gloch y prynhawn yma, bydd y cloc yn cychwyn o hanner nos, yr hanner nos flaenorol, oherwydd maen nhw i gyd wedi'u stampio ar y diwrnod maen nhw'n cyrraedd.
"Felly, rydyn ni'n dweud bod nhw wedi cymryd o leiaf 24 awr, er bod 17 o'r 24 awr wedi mynd cyn i'r prawf gyrraedd.
"Nid yw erioed wedi bod yn broblem, nid yw erioed wedi bod yn bwysig. Mae'n bwysig nawr bod yn rhaid i ni fynd i'r afael 芒 hynny.
"Rydyn ni'n ceisio symleiddio'r system, cyflymu'r system, rydyn ni'n defnyddio mwy o gapasiti labordy goleudy ar draws ein ffin, sydd ar y cyfan wedi cael eu prosesu'n gyflymach.
"Mae gan labordai Cymru bethau i'w dysgu o'r ffordd y mae labordai goleudy [yn Lloegr] yn gweithredu, mae hynny'n sicr, ac rydym yn defnyddio mwy o'r labordai goleudy hynny nag yr oeddem yn gynharach yn y system."
Paratoi am ail don
Dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru ddata yngl欧n 芒 pha mor gyflym mae'r broses o olrhain cysylltiadau pobl sy'n cael profion positif yn gweithio ond ni fydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus nes ei fod "yn ddibynadwy ac yn barod i'w gyhoeddi".
Fe ddechreuodd trafodaethau gyda'r gweinidog iechyd a'r prif swyddog meddygol ynghylch paratoadau ar gyfer ail don bosib o achosion Covid-19 sawl wythnos yn 么l.
Dywedodd Mr Drakeford fod "ymhell dros 100 miliwn o eitemau" o offer diogelwch personol wedi cael eu pentyrru yn warysau'r llywodraeth.
Bydd "nifer sylweddol" o'r 17 ysbyty maes a godwyd mewn ychydig wythnosau ar gost o 拢166m i ddarparu 6,000 o welyau ychwanegol yn cael eu cadw, ond nid pob un.
Dim ond Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd sydd hyd yma wedi trin unrhyw gleifion.
Dywedodd y prif weinidog ei fod yn credu y bydd "tueddiad naturiol i fwy o bobl" gymryd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn ond bod y stoc honno'n cael ei hadeiladu "fel y gallwn ei gynnig i fwy o bobl ac rydym yn edrych i weld os ydyn ni'n gallu ei gynnig am ddim i fwy o bobl hefyd".
Ychwanegodd: "Bydd neges Llywodraeth Cymru yn sicr i unrhyw un yng Nghymru - mae brechlyn rhag y ffliw ar gael i chi.
"Mae'n rhagofal synhwyrol iawn, iawn i'w gymryd y gaeaf hwn, yn fwy nag unrhyw un arall."
大象传媒 Politics Wales, 大象传媒 One Wales am 10:00 ddydd Sul ac yna ar yr iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2020