´óÏó´«Ã½

'Chydig iawn' o sinemâu i ailagor wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Maxime
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Maxime yn y Coed Duon i fod i ailagor ddydd Llun ond fe fydd hyn yn annhebygol o achos y cyfyngiadau cymdeithasol sydd mewn grym

Mae sinemâu yng Nghymru yn annhebygol o ailagor yr wythnos nesaf oherwydd cyfyngiadau ar sut y gallan nhw weithredu, yn ôl cymdeithas sy'n cynrychioli'r diwydiant.

Dywedodd Phil Clapp, Prif Weithredwr Cymdeithas Sinema'r DU mai "ychydig, os o gwbl" fydd yn ailagor ar 27 Gorffennaf pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu codi.

Fydd dim hawl gan sinemâu werthu unrhyw fwyd os ydyn nhw'n ailagor ar y dyddiad hwnnw ac fe fydd rheolau ymbellhau'n gymdeithasol yn dal mewn grym.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r gymdeithas.

Drysau ar gau

Mae sinema'r Maxime yn y Coed Duon, Sir Caerffili yn un o'r sinemâu na fydd yn ailagor ddydd Llun, ond mae sinema Brynaman yn bwriadu ailagor yn gynnar mis Awst.

Mae gan y Maxime bum sgrîn a digon o le i 232 o bobl yn y theatr mwyaf, ond dim ond 60 fydd yn cael mynediad o achos y rheol 2m.

Dywedodd Steve Reynolds, cyfarwyddwr Picturedrome Cinemas sy'n rhedeg y Maxime: "Os oes rhaid i ni ostwng ein capasiti a dim modd gwerthu bwyd, yna dyw hi ddim yn ymarferol i ni agor.

"Rwy'n credu y galla i siarad dros fwyafrif sinemâu Cymru, y cwmnïau mawr hefyd. Er efallai y byddwn ni'n gallu ymdopi a chynulleidfa lai - fydden ni ddim yn dymuno gwneud hynny - ond os oes rhaid i ni, efallai byddai hynny'n un dewis, ond o ran y gwerthiant bwyd a thocynnau, os ewch â'r ddau i ffwrdd, yna fyddwn ni ddim yn gallu goroesi."

Mae sinema'r Maxime yn cyflogi 37 o staff, ac erbyn hyn maen nhw'n ysu i ailagor.

"Rydych chi'n gweld busnes fel hwn sydd wedi bod ar gau ers pedwar mis, mae'n anodd iawn." ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Steve Reynolds said his staff are eager to return to work but that conditions had to be right

"Heb gynllun ffyrlo'r llywodraeth rwy'n credu y byddai wedi bod yn amhosibl parhau a chadw ein staff.

"Daeth cyhoeddiad am y celfyddydau a sinemâu annibynnol, sef cronfa o £1.5bn. Ond dy'n ni ddim wedi cael unrhyw wybodaeth am hynny eto - er ein bod wedi holi.

"Rydyn ni'n barod i ailagor os yw'r rheolau cywir yn eu lle. Mae'r staff mor awyddus i ddychwelyd i'r gwaith."

Ailagor ym Mrynaman

Ond nid pob sinema fydd yn parhau ar gau yn hir. Mae Sinema Brynaman yn gobeithio ailagor ar 7 Awst.

Ffynhonnell y llun, Sinema Brynaman
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 76 fydd yn gallu mynd i sinema sy fel arfer yn dal 700 ym Mrynaman

Un o gyfarwyddwyr y sinema yw Brian Harries, ac fe ddywedodd: "Ar ôl cyfarfod bore ma gyda'r cyfarwyddwyr, ni wedi penderfynu ailagor ar y 7fed o Awst.

"Bydde wedi bod yn dda agor yn gynt ond does dim ffilms i ddangos ond o'r 7fed mlaen byddwn ni yn dangos ffilms.

"Fe fydd y gwaith paratoi wedi ei wneud i gyd. Ma gyda ni ddigon o sanitisers a ni wedi rhannu y lle mas. Mae'r sinema fel arfer yn gallu dal 700 ond gyda rheolau dim ond 76 fydd yn gallu dod mewn i wylio ffilm.

"Mae gyda ni stafell gyda sgrîn llai sydd yn gallu cael 44 i mewn. O dan y cyfyngiadau dim ond 10 fydd yn gallu bod yno ac felly ni wedi penderfynu agor y stafell na i deuluoedd sydd eisiau gweld ffilm eu hunain."

Ychwanegodd Mr Harries: "Ni yn edrych mlaen i gael agor nawr."

Pa ffilmiau fydd yn dangos?

Bydd rhai sinemau yn dangos ffilmiau oedd yn y sinema cyn iddyn nhw gau, fel Onward ac 1917. Mae sinemau wedi cael mynediad i archif o 450 ffilm i'w dewis tra bod yr amserlen ar gyfer ffilmiau newydd yn cael ei drefnu.

Bydd ffilmiau newydd yr haf yn cynnwys:

10 Gorffennaf: Saint Frances - ffilm gomedi annibynnol, gyda Kelly O'Sullivan yn y brif rhan, sef nani 34 oed sy'n gwneud dewisiadau amheus.

10 Gorffennaf: Dreambuilders - ffilm wedi animeiddio am ferch sy'n methu rheoli ei breuddwydion

31 Gorffennaf: Proxima - Eva Green yw'r unig fenyw sy'n hyfforddi i fod yn ofodwr, ac mae Matt Dillon yn cyd-serennu

31 Gorffennaf: Unhinged - Russell Crowe yn gwylltio fel nad yw e wedi gwylltio erioed o'r blaen wrth fynd ar drywydd mam oedd wedi meiddio canu corn ei char

12 Awst: Tenet - Blockbuster Christopher Nolan lle mae John David Washington yn ceisio atal Trydydd Rhyfel Byd

21 Awst: Mulan - Ailgread Disney o'r ffilm oedd wedi'i animeiddio yn 1998 am ferch fach o Cheina ddaeth yn ryfelwr

Mae disgwyl twr o ffilmiau yn yr Hydref, wedi'r cyfnod hir o oedi cyn medru eu rhyddhau oherwydd y feirws.

Ffynhonnell y llun, Cwmniau Ffilm
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o sêr y ffilmiau fydd ar y sgrîn fawr yr haf hwn

Cynllun ffyrlo

Mae Cymdeithas Sinema'r DU (UKCA) yn amcangyfrif bod 95% o weithwyr sinemâu yn y DU wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, ac roedd amheuaeth am ryddhau ffilmiau newydd o achos natur fyd-eang y diwydiant.

Cymru yw'r unig ran o'r DU lle nad yw sinemâu wedi ailagor eto.

Mae Phil Clapp, prif weithredwr Cymdeithas Sinema'r DU wedi bod yn siarad gyda Llywodraeth Cymru am y rheolau presennol, ac mae'n credu y bydd yn annhebygol y bydd pobl yng Nghymru yn mynd i'r sinema yr wythnos nesaf.

"Yn amlwg dydyn ni ddim wedi siarad â phob sinema yng Nghymru, ond rydyn ni'n amau ​​mai ychydig, os o gwbl, fydd yn teimlo y byddan nhw'n gallu agor bryd hynny," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda sinemâu ar fater gwerthu bwyd a diod fel rhan o ailagor lletygarwch dan do [a all agor o 3 Awst]."

"Rydyn ni'n archwilio opsiynau o amgylch pecyn o gymorth cyllid i'r sector diwylliant."