大象传媒

'Angen 5,000 o wl芒u' ar gyfer ail don bosib

  • Cyhoeddwyd
NHS doctorsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwasanaeth iechyd yn cynllunio ar gyfer ail don posib

Bydd angen 5,000 yn fwy o welyau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn gallu ymdopi gydag ail don bosib o'r coronafeirws, yn 么l y gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething fod prif weithredwr GIG Cymru wedi argymell cynllunio ar gyfer 5,000 yn rhagor o welyau.

"Ac nid hwnna yw'r rhagdybiaeth waethaf posib, ond y rhagdybiaeth fwyaf tebygol," meddai Mr Gething yn ystod cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y bydd modd gwneud defnydd o'r ysbytai maes sydd wedi eu sefydlu, ond fod yr union "manylion yn dal i gael eu trafod."

Yn 么l Mr Gething mae'n disgwyl gallu rhyddhau datganiad ym mis Medi gyda mwy o fanylion am drefniadau lleol yngl欧n 芒'r darpariaethau ychwanegol ar gyfer y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Vaughan Gething: "Rhoi cynllun manwl at ei gilydd"

Dywedodd nad oedd y Llywodraeth wedi penderfynu eto pa rai o'r ysbytai'r maes fyddai'n cael eu cadw dros gyfnod y gaeaf.

"Nid ydym wedi gwneud penderfyniadau na dewisiadau terfynol yngl欧n 芒 pha rai o ysbytai'r maes i gadw neu eu dad-gomisiynu.

Mae'r llywodraeth, meddai, yn rhoi cynllun manwl at ei gilydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf.

Mewn ateb i gwestiwn yngl欧n 芒 Stadiwm Principality, Caerdydd, dywedodd ei fod yn ymwybodol am bwysau eraill oedd ar y lleoliad.

Byddai'n hoffi ei weld yn "dychwelyd i normal" mor fuan 芒 phosib, ond nad oedd yn gallu rhoi dyddiad pryd y byddai'n gallu cael ei ailddefnyddio fel adnodd chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Stadiwm Principality ei droi'n ysbyty maes, gyda'r enw Ysbyty Calon y Ddraig

Mae cynadleddau'r wasg Llywodraeth Cymru wedi newid o fod yn ddyddiol i rai unwaith yr wythnos gan ddechrau heddiw.

Wrth gyfeirio at y 5,000 o welyau ychwanegol dywedodd Mr Gething: "Ar gyfer y don gyntaf fe wnaethom bron a threblu'r capasiti ar gyfer gwelyau critigol o fewn y GIG.

"Bydd angen i ni wybod a deall a fyddwn angen gwneud hyd yn oed yn fwy, oherwydd fe fydd y cynllun ar gyfer yr hydref a'r gaeaf angen rhoi amser i'r gwasanaeth i wneud yn si诺r eu bod yn gallu addasu ar gyfer niferoedd mwy."