Pryder undeb am amseroedd prosesu profion Covid-19

Ffynhonnell y llun, Jane Barlow

Mae undeb nyrsio'n galw am ymchwiliad er mwyn darganfod pam fod rhai profion coronafeirws yn cael eu prosesu'n arafach nag eraill.

Daeth canlyniadau llai nag un o bob tri o brofion Unedau Profi'r Gymuned yn 么l o fewn 24 awr yr wythnos diwethaf.

Mae'r unedau'n cael eu gweithredu gan y byrddau iechyd a gweithwyr gofal iechyd sydd yn eu defnyddio gan amlaf.

Dywed y llywodraeth fod yr unedau profi hyn yn "flaenoriaeth allweddol" yn y broses o wella amseroedd canlyniadau.

Dywed cyngor arbenigol gweinidogion y llywodraeth fod y cynlluniau olrhain cysylltiadau "sy'n cael eu hystyried y mwyaf llwyddiannus" yn gofyn am brosesu'r canlyniadau o fewn 24 awr.

Mae cynllun olrhain cysylltiadau'n cael ei weld fel arf hanfodol yn y broses o lacio'r cyfyngiadau clo.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Daeth 32% o'r 8,664 prawf gafodd eu cwblhau mewn Unedau Profi'r Gymuned yr wythnos diwethaf yn 么l o fewn 24 awr, a 48.6% o fewn 48 awr.

Roedd perfformiad y canolfannau gyrru-i-mewn rhanbarthol, sydd y cael eu defnyddio gan y cyhoedd gan amlaf, yn well - gyda chanlyniadau 39% o'u 5,520 o brofion yn cyrraedd o fewn 24 awr, a 83% o fewn 48 awr.

Profion mewn ysbytai oedd y cyflymaf. Daeth 80% o'r 5,613 profion ysbytai yn 么l o fewn 24 awr, a 96% o fewn 48 awr.

Ers canol Mai nid oes un wythnos wedi bod lle cafodd dros hanner profion Unedau Profi'r Gymuned eu dychwelyd o fewn 24 awr.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Y ganolfan brofi yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod am "symleiddio a chyflymu" y system.

Ddydd Sul dywedodd wrth raglen Politics Wales y 大象传媒 ei fod am weld amser prosesu'r profion yn cyflymu "felly pan fydd angen cyfradd uwch o brofion fe fyddwn mewn gwell sefyllfa o gymharu gyda lle'r oeddem dros y mis diwethaf".

Dywedodd Mr Drakeford yn y Senedd yr wythnos diwethaf fod "gwasanaeth cludo gwell" yn cael ei drefnu fel bod modd cludo'r profion i'r labordai "yn gyflymach ac yn fwy cyson".

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru: "Yn ystod y pedair wythnos diwethaf mae'n ymddangos fod canlyniadau profion llawer arafach yn dod allan o Unedau Profi'r Gymuned.

"Mae dau o bob tri o'n haelodau yn gweithio yn y gymuned.

"Mae'n bwysig iawn fod unedau profi ar gael yn y gymuned o achos poblogaeth wledig Cymru a bod canlyniadau profion ar gael cyn gynted 芒 phosib.

"Mae'r data'n awgrymu ei fod yn cymryd yn hirach i gael canlyniadau pan fod yr unigolion yn cael eu profi yn y gymuned o gymharu gyda'r canolfannau rhanbarthol ac ysbytai.

"Fe all hyn fod yn fater sylweddol i'r dyfodol ac fe fyddem yn annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio hyn a chywiro'r sefyllfa fel blaenoriaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wella'r amseroedd prosesu canlyniadau.

"Mae amseroedd Unedau Profi'r Gymuned yn flaenoriaeth allweddol i'r gwaith hwn."