Rhoi'r gorau i alcohol: 'Y peth anodda' dwi erioed wedi 'neud'

Ffynhonnell y llun, Elin Meredydd

Mae'r gyfrol Un yn Ormod sydd wedi cael ei golygu gan Angharad Griffiths yn gasgliad o hanesion personol ac ingol gan unigolion sydd wedi cael problemau ag alcohol yn y gorffennol.

Un o'r cyfranwyr sy'n trafod ei pherthynas â diod yn y llyfr, ydy'r artist Elin Meredydd sy'n byw yng Nghaerdydd. Yma, mae hi'n trafod pam ei bod hi wedi rhoi'r gorau i yfed alcohol ers wyth mis, yn 27 mlwydd oed.

'Nes i ddim deffro un bore a phenderfynu mod i byth am yfed eto. Penderfynu i wneud bob dim o'n i'n gallu i roi'r gora i deimlo mor anhapus wnes i, ac yn sgil hynny dwi heb gyffwrdd dropyn ers wyth mis bellach.

Mi oeddwn i mewn limbo, yn fodlon gwneud unrhyw beth i beidio teimlo'n isel, ond yn rhy isel i gael y nerth i gymryd y cam cyntaf.

Rhywsut, drwy wyrth… ar ôl darllen llyfr The Unexpected Joy Of Being Single ges i fel jôc gan fy chwaer ar fy mhen-blwydd, a phrynu tocyn un ffordd i Berlin mewn anobaith ac ar whim, 'nes i ddechra' cyfres o newidiadau bach wnaeth arwain at newidiadau mwy.

Mae "AM BYTH" yn amser hir. Dwi'n 27 mlwydd oed ac felly hefo pentwr o flynyddoedd o fy mywyd i edrych ymlaen ato fo (gobeithio).

Adeg yma llynedd mi fasa cysidro mynd gweddill fy oes heb sesh arall yn steddfod, peint i leddfu poen ar ôl chwalfa garwriaethol, neu hyd yn oed pryd o fwyd drud heb win wedi bod yn chwerthinllyd.

Panic ac iselder

Mi oeddwn i'n dioddef o byliau o banig ac iselder ers i mi fod yn ifanc ac wedi trio gwrthiselyddion, therapi ac amryw hunan feddyginiaeth. Pan oedd y pyliau ar eu gwaethaf mi oedd mynd allan ac yfed am ddyddiau hefo fy ffrindia' (llawer ohonynt mewn cwch digon tebyg) yn opsiwn llawer haws na delio efo'r teimladau o'n i'n wynebu.

Roedd fy anniddigrwydd yn effeithio ar bawb oedd yn agos ata i ac yn y pendraw yn golygu ei bod hi'n anodd iawn i mi gynnal perthnasau iach.

'Pwy oeddwn i?'

Roedd pobl yn fy adnabod i am fod yn wyllt ac yn hwyl ac yr olaf i adael pob parti. Nes i weithio'n galed i greu'r cymeriad, i chwarae i'r cymeriad ac i adlonni pobl efo'r cymeriad yna.

Mi oeddwn i'n dibynnu ar y cymeriad er mwyn osgoi gadael i bobl ddod i wybod y gwir. Pwy oeddwn i os oedda' chi'n tynnu'r un peth oddi arnai oedd yn galluogi i mi chwarae'r rôl yna'n berffaith?

Ffynhonnell y llun, Elin Meredydd

Disgrifiad o'r llun, Yn y dyddiau cyn stopio yfed

Wel, mae'n troi allan fy mod i dal yr un person yn y bôn. Ond llawer fwy clên (am bod gen i fwy o amser ac amynedd), llai o boen yn dîn (does 'na neb yn gorfod fy nghario i adra), yn fwy dibynadwy (dim hangofyr - dim canslo trefniadau) a dal yr union yr un faint o fflirt.

Ers i mi roi'r gora' i yfed ma' gen i llai o baranoia, drama a dyddiau wedi'u gwastraffu yn fy ngwely. Yn lle hynny mae gen i fwy o bres yn y banc, coesa' "tanned" am y tro cynta', corff dwi'n garu a dwi'n cysgu'n drwm bob nos.

Hefyd o ddiddordeb:

Dwi ddim yn cofio'r tro diwethaf i fi gael pwl o banig. Ac er ein bod ni wedi bod mewn pandemic byd eang a dwi dal i gael ambell dridia isel… does r'un yn cymharu â'r dyddiau di-ddiwedd a diobaith roeddwn i'n arfer profi.

Mae o'n codi ofn arnai i leisio fy mhrofiad yn gyhoeddus am fod Cymru mor fach ac ma'n ddigon anodd delio gyda bywyd heb i chi deimlo fel tasa pawb yn eich barnu chi ac yn eich busnes chi.

'Perthynas afiach efo'r cyffur'

Er hyn, ers i mi gyhoeddi pytiau o fy nyddiadur ers sobri yng nghylchgrawn Codi Pais (gyda diolch enfawr i gefnogaeth y merched anhygoel sy'n curadu'r cylchgrawn am roi'r hyder i mi wneud) dwi'n sylweddoli ei bod hi'n werth i fi rannu fy stori.

Mae cymaint wedi cysylltu efo fi'n ddiweddar i rannu eu profiadau nhw… ac mae'n amlwg i mi nad fi yw'r unig berson ifanc yng Nghymru sy'n ymwybodol eu bod nhw mewn perthynas afiach efo'r cyffur.

Mae'r cysylltiad rhwng yfed ac iselder yn hollol amlwg i fi erbyn hyn. Mae rhoi'r gora' i yfed Y peth anodda' dwi erioed wedi 'neud. Yn enwedig mewn cymdeithas sydd sydd wedi'u cyflyru i feddwl bod booze yn beth mor hanfodol i'n bywydau cymdeithasol ni a'n perthnasau ni efo llawer o'n ffrindia' a theulu.

Mae o'n anodd bob dydd mewn rhai ffyrdd ond hefyd yn hawdd iawn iawn.

Hawdd am fy mod i'n hapus rwan a doeddwn i ddim pan oeddwn i'n yfed.

Mae Un yn Ormod wedi ei chyhoeddi ddydd Mercher 5 Awst, gan wasg Y Lolfa.