Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Darllediad radio cyntaf o bencadlys newydd ´óÏó´«Ã½ Cymru
Cafodd y rhaglen radio gyntaf ei darlledu o bencadlys newydd ´óÏó´«Ã½ Cymru fore Sadwrn.
Fe aeth ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 ar yr awyr yn fyw o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd am 07:00.
Ac am 11:00 fe ddarlledodd ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru ei rhaglen gyntaf o'r adeilad newydd.
Roedd Radio Cymru cyn heddiw wedi bod yn darlledu o safle'r ´óÏó´«Ã½ yn Llandaf ers ei dyfodiad yn 1977.
Llais y cyflwynydd Daniel Glyn oedd y cyntaf i'w glywed o'r stiwdio newydd ar Radio Cymru 2.
Roedd yn cael cwmni dau arall sef cyflwynydd Radio Cymru 2 a ´óÏó´«Ã½ Radio 1, Huw Stephens, a Caryl Parry Jones.
Ar Radio Cymru, Y Sioe Sadwrn oedd y rhaglen gyntaf i fynd ar yr awyr o'r adeilad newydd, gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips yn cyflwyno.
'Newidiadau mawr'
Dywedodd Rhuanedd Richards, golygydd Radio Cymru, ei bod yn "falch iawn fod ein gwasanaethau Cymraeg bellach yn medru manteisio ar y dechnoleg ddarlledu orau wrth i ni barhau i weithio tuag at gyrraedd cynulleidfaoedd newydd".
"Cryfder mawr Radio Cymru a Radio Cymru 2 wrth gwrs yw ein bod ni'n darlledu o ganolfannau ar draws Cymru gyfan, ac mae ein hymrwymiad i hynny yn parhau."
Roedd un o gyflwynwyr cyntaf erioed Radio Cymru yn 1977, Hywel Gwynfryn hefyd yn y Sgwâr Canolog ar gyfer y sioe fyw gyntaf o'r Sgwâr Canolog.
Bydd yn cyflwyno ei sioe o'r stiwdio newydd ddydd Sul.
"Ers i ddrysau Llandaf agor ym 1967, fe fu newidiadau mawr, chwyldro technolegol yn wir, ac mae'r adeilad newydd yn y Sgwâr Canolog yn brawf o hynny," meddai.
"Ond mae'r nod yn parhau yn ddigyfnewid - ceisio diddori'n cynulleidfa yn y modd mwyaf creadigol.
"Fe ddylai hynny, fel y sgwâr, fod yn ganolog i'n bwriad."
Bydd ´óÏó´«Ã½ Radio Wales yn dechrau darlledu o'r Sgwâr Canolog yn fuan.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter