大象传媒

Galw am lacio cyfyngiadau 'annheg' ar angladdau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn 么l Ffion Evans mae'r cyfyngiadau llym ar angladdau bellach yn annheg

Mae teulu dyn o Sir Benfro fu farw'n ddiweddar wedi dweud bod y cyfyngiadau llym sy'n parhau ar angladdau yn peri loes diangen i deuluoedd fel nhw.

Dim ond 12 o bobl gafodd fynychu angladd Bernard Lawrence yr wythnos diwethaf, a hynny oherwydd bod rheolau ymbellhau cymdeithasol yn parhau mewn grym.

Ond dywedodd ei wyres, Ffion Evans, fod hynny'n rhwystredig i'r teulu o ystyried cymaint o gyfyngiadau eraill sydd wedi'u llacio'n ddiweddar.

Cafodd Mr Lawrence ddiagnosis o ganser yn gynharach eleni, ond oherwydd y pandemig bu oedi yn ei driniaeth, ac mae'r teulu'n dweud fod ei iechyd wedi dirywio gormod erbyn i'r gwasanaeth fod ar gael eto.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "deall pa mor anodd y gall hyn fod i deuluoedd sy'n galaru", ond bod rhaid cadw at y rheolau er mwyn atal ymlediad yr haint.

Ychwanegodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn cydymdeimlo 芒'r teulu, a'u bod mewn trafodaethau i weld a oes modd cynyddu nifer y galarwyr yn y dyfodol.

Cyfyngiadau 'annheg'

Cafodd angladd Mr Lawrence, 76, ei gynnal yn yr amlosgfa yn Arberth wythnos diwethaf, a dywedodd ei wyres y byddai llawer mwy na dwsin o bobl wedi hoffi bod yno.

"Mae'n eitha' upsetting achos mae colli rhywun chi'n caru yn anodd beth bynnag, ond mae'n 'neud y sefyllfa yn waeth byth, yn enwedig achos mae lot o gyfyngiadau 'di cael eu newid gyda thwristiaeth a thafarndai," meddai Ffion Evans.

"Fi'n credu bod angladdau'n eitha' pwysig i deuluoedd copio gyda rhywun yn marw, yn enwedig yn yr amser yma gyda coronafeirws.

"Ma' pobl yn dod o lefydd eraill ym Mhrydain [i ddod ar wyliau] ond mae rhywun sydd wedi'i eni a'i fagu yn Sir Benfro, ddim yn gallu cael angladd iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bernard Lawrence gyda'i wraig Ketricia

Fe gysylltodd Ms Evans 芒'r awdurdod lleol i weld a fyddai modd bod yn hyblyg 芒'r niferoedd, ond cafodd wybod nad oedd hynny'n bosib.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn gefnogol ar y cyfan o'r ffordd roedd Llywodraeth Cymru wedi delio 芒'r pandemig.

"Ond nawr fi'n credu os mae pethau fel tafarndai, caffis a siopau'n ailagor gyda lot o bobl heb lot o social distancing, fi'n credu mae'n amser i godi cyfyngiadau ar angladdau hefyd," meddai.

Ychwanegodd: "'Sa i isie i deuluoedd eraill fynd drwy hyn."

'Ti'n meddwl what if'

Er mai nid marw o Covid-19 wnaeth Mr Lawrence, mae Ffion Evans yn dweud nad oes modd osgoi'r teimlad y gallai ei thad-cu fod gyda nhw o hyd oni bai am y pandemig.

"Cafodd e ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint ym mis Ionawr, ac wedyn erbyn mis Mawrth o'dd 'da fe tiwmors yn ei ben e," meddai.

"Ond achos coronafeirws roedd rhaid iddyn nhw ganslo ei driniaeth e, ac erbyn iddyn nhw allu rhoi triniaeth iddo fe roedd e'n rhy s芒l i gael e.

"Chi'n gweld y rhifau o bobl sydd wedi marw o Covid-19, ond so ti'n gweld y rhifau o bobl sy'n marw o ganser a phethau iechyd eraill.

"Mae e'n gwneud y sefyllfa'n galed achos ti yn meddwl 'what if'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion Evans (chwith) gyda'i mam-gu a thad-cu, a'i chwaer Lisa

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol unigol oedd yn penderfynu'n union faint o bobl oedd yn cael bod mewn gwasanaethau angladd, a bod hynny'n ddibynnol ar faint y lleoliad.

"Rydyn ni'n deall pa mor anodd yw hyn i deuluoedd sy'n galaru, ond mae angen cadw pellter corfforol er mwyn atal lledaeniad coronafeirws," meddai.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Tra bod y risg uwch i gleifion o ganlyniad i rai triniaethau wedi cael effaith ar rai o wasanaethau'r GIG, rydym wedi gweithio'n agos gyda byrddau iechyd i sicrhau bod cymaint o ofal canser 芒 phosib yn gallu parhau."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn cydymdeimlo 芒 theulu Bernard Lawrence a'r "holl deuluoedd sydd wedi mynychu angladd anwyliaid yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth, ers i'r cyfyngiadau ar alarwyr fod mewn grym".

"Yn anffodus oherwydd maint y capel, ac er mwyn cadw at reolau pellter cymdeithasol dau fetr Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i ni gyfyngu nifer y galarwyr i 12.

"Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr angladdau, rydyn ni'n gobeithio yn y dyfodol agos caniat谩u i wyth galarwr ychwanegol fod yn bresennol mewn gwasanaethau amlosgi tu allan i'r capel, gan gadw o hyd at bellter cymdeithasol."