Pum marwolaeth coronafeirws newydd - pob un yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pum person arall wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, a'r cyfan yn ardal Wrecsam, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher.
Mae'n dod 芒 chyfanswm y bobl sydd wedi marw gyda'r feirws yma i 1,554, yn 么l ffigyrau diweddara'r corff.
Cafodd 32 o achosion newydd eu cadarnhau, sy'n golygu bod 17,223 o bobl bellach wedi profi'n bositif am Covid-19 yng Nghymru.
Roedd bron i hanner yr achosion newydd -15 - yn Sir Wrecsam, a phump yn Sir Y Fflint.
Ddydd Mercher fe wnaeth aelodau'r cyhoedd ddechrau ymweld 芒 dwy ganolfan brofi symudol sydd newydd eu sefydlu yn Wrecsam, heb orfod gwneud apwyntiad o flaen llaw.
Fe aeth tua 100 o gleifion i'r clinigau yn Hightown a Pharc Caia fore Mercher, yn dilyn cynnydd yn nifer achosion coronafeirws yn y dref.
Cadarnhaodd rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth fod rhwng 70 ac 80 o achosion positif o'r feirws wedi'u cofnodi yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Rhybuddiodd Llywodraeth Cymru y gallai gamu i'r adwy "os daw hi i'r pen" i orfodi mesurau ychwanegol i leihau nifer yr achosion.
'Gwaith caled'
Erbyn dydd Mercher, roedd nifer y cleifion Covid-19 yn Ysbyty Maelor rhwng 60 a 70, yn 么l rheolwyr y bwrdd iechyd.
Mewn cyfweliad i 大象传媒 Cymru ddydd Mercher, dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol y bwrdd, David Fearnley fod mwyafrif y cleifion Covid-19 yn Ysbyty Maelor wedi dal y feirws yn yr ysbyty.
Ychwanegodd fod y cynnydd yn nifer achosion yn ddatblygiad "difrifol iawn" ac "mae'n mynd i fod yn waith caled" i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.
Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth y bwrdd, Gill Harris, hefyd fod "nifer fach" o achosion hefyd yn ysbytai cymunedol Glannau Dyfrdwy, Y Waun a'r Wyddgrug, a bod "nifer o fesurau mewn grym" i'w helpu i reoli'r risg.
Cafodd 3,640 o brofion Covid-19 eu cynnal ar draws Cymru ddydd Mawrth.
Mae cyfanswm yr holl brofion sydd wedi eu cynnal bellach yn 372,863.
236,429 yw cyfanswm y bobl sydd wedi eu profi hyd yn hyn, ac fe gafodd 219,206 ganlyniadau negatif.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020