大象传媒

Gwahardd plastig untro: Llywodraeth yn gwahodd syniadau

  • Cyhoeddwyd
Plastig untro

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynlluniau i wahardd plastig sy'n gallu cael eu defnyddio unwaith yn unig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn ei bod eisiau "clywed gan bobl Cymru sut y gall y wlad chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i'r afael 芒'r broblem o wastraff plastig".

Uchelgais Llywodraeth Cymru ydy i'r wlad beidio defnyddio unrhyw blastig sydd ddim yn gallu cael ei ailddefnyddio yn ddiangen.

Pe bai'r cynlluniau yn dod i rym byddai eitemau fel gwellt yfed a chyllyll a ffyrc plastig, a phecynnau bwyd a diod polystyren yn cael eu gwahardd.

Mae'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i leisio eu barn ar gynlluniau'r llywodraeth, a bydd yr ymgynghoriad ar agor nes 22 Hydref.

Dim gwastraff erbyn 2050?

Mae'r cynlluniau yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i fod yn wlad sy'n cynhyrchu dim gwastraff o gwbl erbyn 2050.

Dywedodd Ms Blythyn y byddai'r cynigion yn helpu ymdrechion cymunedau i ddefnyddio llai o blastig trwy dynnu'r rhai nad oes modd ailddefnyddio o'r gadwyn gyflenwi.

"Mae llygredd plastig a'r effaith y mae'n ei gael ar ein hamgylchedd yn aml yn cael sylw yn y cyfryngau, ar-lein ac mewn sgyrsiau rwy'n eu cael bob dydd 芒 phobl ledled Cymru," meddai.

"Mae'n difetha ein cymunedau ac yn cael effaith ddinistriol ar ein bywyd gwyllt.

"Gobeithio y bydd pobl Cymru yn awr yn manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn a'n helpu i symud ymlaen ar ein taith tuag at Gymru ddi-sbwriel."