Llwyfan Encore: Dydd Sul 2 Awst
- Cyhoeddwyd
Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dyma holl sesiynau Dydd Sul 2 Awst mewn un lle.
Dewch yn 么l pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Arwyddo'r Anthem: Gweithdy 1 - Dysgu'r bennill
Dewch i ddysgu arwyddo'r Anthem Genedlaethol gyda Sarah Lawrence a Cathryn McShane.
Penllanw y prosiect hwn, fel rhan o'r Eisteddfod AmGen, fydd dangos y perfformiad fel diweddglo Sioe yr Eisteddfod Goll, nos Sadwrn 8 Awst am 20.00 ar S4C.
Y Danbaid Fendiged Ann
Sioe fer un ddynes gyda'r mezzo-soprano Si芒n Meinir - cip ar lythyron, cerddi ac alawon Ann Griffiths
Sain a Sg么r T欧 Cerdd: Morfydd Owen - Gweddi y Pechadur
Morfydd Owen - Gweddi y Pechadur: Recordiwyd gan y pianydd Zo毛 Smith a'r soprano Jess Robinson (28 Chwefror 2019, yn Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
Emyn newydd gan Karen Owen
Dyma emyn newydd gan Karen Owen a'r d么n gan Euros Rhys. Yn ei chanu am y tro cyntaf mae'r tenor Trystan Ll欧r Griffiths
'Pont y Glaw' gyda 400 o aelodau bandiau pres a chorau
Gwaith arbennig Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan yw Pont y Glaw - cyfanwaith sy'n cwmpasu'r bandiau pres ac ystod eang o gorau o ar draws Cymru, gan adlewyrchu teimladau'r cyfnod cloi ein cymunedau a chynnig nodyn o obaith i'r dyfodol. Defnyddir yr ymadrodd 'Pont y Glaw' am enfys mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru.
T卯m bychan sydd wedi bod wrth y llyw, Mari Lloyd Pritchard ac Aled Wyn Evans yn cydlynu, Nathan Williams yng ngofal y sain o stiwdio Band Biwmares, a Gary Pritchard ac Arwel Stephen wedi eu hymrwymo i ymuno 芒'r t卯m ar gyfer y gwaith o olygu dros fil o ffeiliau, a'r cyfan o fwrdd y gegin a desgiau cartre' !
"Does dim amheuaeth fod hon wedi bod yn broses heriol o ran cyflawni'r dasg mewn cwta fis - ond mae hefyd wedi bod yn siwrne bwysig mewn sawl ffordd gyda nifer o gorau yn ymarfer yn ddigidol ac yn cymryd rhan mewn prosiect rhithiol am y tro cyntaf," meddai Mari.
"Mi fues i'n cynnal ymarferion Zoom gyda'r corau 'dros 60 oed' i gyd - wel, s么n am hwyl! I mi, roedd y sgwrs a oedd yn neidio o un sgw芒r Zoom i'r llall, ac o un cornel o Gymru i'r llall, yn un o brif lwyddiannau'r prosiect. Dwi wedi crio a chwerthin wrth wrando a gweld ymdrech dros 400 o gynrychiolwyr yn morio canu neu'n chwarae offeryn ar eu pennau'u hunain - sydd wrth gwrs yn hollol groes i holl rinweddau bod yn aelod o deulu band neu g么r. Gan ddiolch i bawb am eu cyfraniad a'u gwaith caled."