大象传媒

Llwyfan Encore: Dydd Llun 3 Awst

  • Cyhoeddwyd
Encore

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn 么l pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Arwyddo'r Anthem: Gweithdy 2 - Dysgu'r gytgan

Disgrifiad,

Arwyddo'r Anthem: Gweithdy 2 - Dysgu'r gytgan

Dewch i ddysgu arwyddo'r Anthem Genedlaethol gyda Sarah Lawrence a Cathryn McShane.

Penllanw y prosiect hwn, fel rhan o'r Eisteddfod AmGen, fydd dangos y perfformiad fel diweddglo Sioe yr Eisteddfod Goll, nos Sadwrn 8 Awst am 20.00 ar S4C.

Sgwrs o Bwys: Llesiant a Gwerth Canu Corawl

Disgrifiad,

Sgwrs o Bwys: Llesiant a Gwerth Canu Corawl

Sgwrs yn trafod llesiant a gwerth canu corawl ar ein hiechyd yn feddyliol ac yn ffisegol, gydag Elen ap Robert yn holi Dr Gwawr Ifan sy'n Uwch-ddarlithydd ac ymchwilydd mewn cerddoriaeth, Dr Awel Vaughan Evans sy'n Uwch-ddarlithydd mewn seicoleg, y mezzo-soprano Sian Meinir sy'n ymddiddori yn y maes, Kiefer Jones, arweinydd C么r Tenovus a Bethan Arfonia Williams sy'n aelod o'r c么r.

#UnawdEncore: Tayla-Leigh Payne: Y Gnocell

Disgrifiad,

#UnawdEncore: Tayla-Leigh Payne: Y Gnocell

Tayla-Leigh Payne: Y Gnocell

Perfformiad gan Mary Johnson (marimba), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Wedi'i ysbrydoli gan nodweddion y gnocell, mae miniatur Tayla-Leigh Payne yn chwarae ar sonoraethau tebyg i'r marimba ei hun.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng T欧 Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle cr毛wyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan-ynysu.

Sain a Sg么r T欧 Cerdd: Meirion Williams - Gwynfyd

Disgrifiad,

Sain a Sg么r T欧 Cerdd: Meirion Williams - Gwynfyd

Meirion Williams - Gwynfyd: Recordiwyd gan y pianydd Zo毛 Smith a'r bariton Tomos Jones yn #Encore yn stiwdio T欧 Cerdd (Eisteddfod Genedlaethol 2018, Caerdydd)

Sgwrs a Ch芒n: Lydia, Merch y Cwilt

Disgrifiad,

Sgwrs a ch芒n: Lydia, merch y cwilt

Opera Un Ddynes gan Caryl Parry Jones, Non Parry a Geraint Cynan, gan gydweithio gydag Elen Phillips curadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda'r soprano amryddawn Rhian Lois yn serennu.

Prosiect mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yw hon, gan ddefnyddio archif i sbarduno thema a stori.

Bwriad y prosiect hwn, yw creu gwaith newydd operatig yn y Gymraeg, gan geisio datblygu cynulleidfa ar gyfer genre hwn wrth gomisiynu cerddor o genre wahanol, mwy poblogaidd i gyfansoddi. Blas o waith mewn datblygiad y cewch yma.

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 1. Ballot Bocs a 2. Cardigan

Disgrifiad,

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 1. Ballot Bocs a 2. Cardigan

Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.

Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.

Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.

Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma i chi'r ddwy g芒n gyntaf i'w mwynhau.