大象传媒

Llwyfan Encore: Dydd Mercher 5 Awst

  • Cyhoeddwyd
Encore

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn 么l pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Sgwrs o bwys: Opera'r Cantor yn Cofid

Disgrifiad,

Sgwrs o bwys: Opera鈥檙 Cantor yn Cofid

Opera'r Cantor yn COFID gydag Elen ap Robert yn holi'r soprano Rhian Lois a'r bariton John Ieuan Jones am effaith y pandemig ar eu gyrfa fel cantorion proffesiynol ar adegau gwahanol o'u gyrfa.

Archif 2007: Caneuon a Sioeau Cerdd

Disgrifiad,

Archif 2007: Caneuon a Sioeau Cerdd

Sgwrs ddifyr rhwng Rhys Jones, Ednyfed Williams ac Aled Lloyd Davies am ganeuon a sioeau cerdd a ysgrifennwyd ganddynt, yng nghwmni Aled Wyn Davies a Steffan Rhys Hughes.

#UnawdEncore: Ethnie Foulkes: Serei

Disgrifiad,

Perfformiad gan Mared Pugh-Evans ar y delyn

Perfformiad gan Mared Pugh-Evans (telyn), T欧 Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae gwaith atmosfferig Ethnie Foulkes ar gyfer telyn unigol yn cymryd ei enw o'r term meteorolegol a ddefnyddir pan fydd glaw yn disgyn o awyr sy'n ymddangos yn glir.

Meirion Williams - Portreadau o Natur 2, I'r Lloer

Disgrifiad,

Meirion Williams, Portreadau o Natur 2 - I'r Lloer

Yr ail mewn set o bedair c芒n a gyhoeddwyd gan T欧 Cerdd, rhai oedd heb eu recordio hyd yma. Llais Osian Wyn Bowen, gyda Zo毛 Smith, piano - T欧 Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Un - Myfyrwyr BA Perfformio, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Disgrifiad,

Un - Myfyrwyr BA Perfformio, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae unigrwydd yn bla. Hyd yn oed cyn argyfwng Covid-19 roedd pobol o bob oed yn teimlo'n gynyddol ynysig yn eu cymunedau.

Ond gall unigrwydd fod yn gyfle hefyd. Mae'n gyfle i fyfyrio, i ofyn cwestiynau ac i gyfaddef pethau na fyddech chi yn ei gyfaddef yn gyhoeddus.

Mae'r sioe 'Un' wedi bachu ar y cyfle creadigol hwnnw. Dyma gylch o ganeuon gwreiddiol gan Gruffudd Owen ac Eilir Owen Griffiths wedi eu creu yn arbennig i fyfyrwyr BA Perfformio, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a'u perfformio o dan amgylchiadau heriol gwanwyn 2020.

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 5. Threnody

Disgrifiad,

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 5. Threnody

Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.

Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.

Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.

Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma i chi'r bumed g芒n i'w mwynhau.