´óÏó´«Ã½

Llwyfan Encore: Dydd Iau 6 Awst

  • Cyhoeddwyd
Encore

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweithdy Canu 1: Paratoi i Berfformio

Disgrifiad,

Gweithdy Canu 1: Paratoi i Berfformio

Dewch i ddysgu a rhannu profiadau gyda chantorion profiadol o'r byd clasurol proffesiynol, Sian Meinir, Fflur Wyn a Siôn Goronwy.

Y Chwiorydd Davies, Gregynog

Disgrifiad,

Y Chwiorydd Davies, Gregynog

Cyflwyniad gan Rhian Davies, yn rhoi hanes bywyd y ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog, a gyfrannodd cymaint i'r celfyddydau yng Nghymru.

#UnawdEncore: Niamh O'Donnell: Allt y Crib

Disgrifiad,

#UnawdEncore: Niamh O’Donnell: Allt y Crib

Perfformiad gan Matt House (gitâr), Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae darn Niamh O'Donnell ar gyfer gitâr unigol yn ymateb i goedwig ger ei chartref yng Ngheredigion lle y mae hi wedi treulio oriau lawer yn ystod y pandemig.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.

Meirion Williams - Portreadau o Natur 3, Yr Alarch

Disgrifiad,

Meirion Williams – Portreadau o Natur 3, Yr Alarch

Y drydedd mewn set o bedair cân a gyhoeddir gan Tŷ Cerdd, rhai oedd heb eu recordio hyd yma.

Llais Osian Wyn Bowen, gyda Zoë Smith, piano. Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sgwrs a Chân: Y Ddwy Chwaer

Disgrifiad,

Sioe Gerdd Gwta yn dathlu cyfraniad Gwendoline a Margaret Davies i ddiwylliant Cymru

Sioe Gerdd Gwta - comisiwn newydd mewn datblygiad gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, yn dathlu cyfraniad cyfoethog Gwendoline a Margaret Davies, Gregynnog i ddiwylliant Cymru.

Gyda chaneuon gan Mared Williams, John Ieuan Jones a Celyn Cartwright. Cefnogir gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 6. Steve Reich, 7. Furlough a 8. Gwichiad

Disgrifiad,

Patrick Rimes a Pres A5: ‘Y Cardigan Eto’: 6. Steve Reich, 7. Furlough a 8. Gwichiad

Yn ystod Mis Mawrth 2020, ‘roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau’r Coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi’n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.

Fel gymaint o weithiau o’r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, ‘roedd y Crowdfunde’, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i’w helpu efo costau’r daith adra, wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau!

Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, gyda deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.

Mae’r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Efo dim cyfleoedd i berfformio’n fyw, roedd cyfansoddi, a threfnu’r deunydd yma yn un o’r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda’r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.

Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu’r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma i chi'r chweched, y seithfed a’r wythfed gân i’w mwynhau.