大象传媒

Anghytundeb yn atal ailgychwyn ffilmio Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Pobol y Cwm

Nid yw ffilmio wedi ailgychwyn ar gyfer cyfres Pobol y Cwm ar 么l i Covid-19 ddod 芒 phopeth i stop, oherwydd anghytundeb ynghylch cyllid, yn 么l ffynonellau.

Deallir nad yw 大象传媒 Studios, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, wedi dod i gytundeb 芒 大象传媒 Cymru eto yngl欧n ag arian.

Dywed 大象传媒 Cymru a 大象传媒 Studios eu bod yn gobeithio ailgychwyn ffilmio cyn gynted 芒 phosib.

Dywed ffynonellau fod costau cynhyrchu'r rhaglen wrth gadw at reoliadau Covid-19 yn golygu bod modd creu llai o gynnwys am yr un faint o arian.

'Trafodaethau'n parhau'

Mae Pobol y Cwm yn opera sebon ddyddiol sy'n cael ei chynhyrchu gan 大象传媒 Studios a'i chomisiynu gan 大象传媒 Cymru.

Mae'n cael ei darlledu ar S4C fel rhan o ymrwymiad statudol 大象传媒 Cymru i ddarparu o leiaf 520 awr o raglenni ar gyfer y sianel. Pobol y Cwm a newyddion yw mwyafrif cynnwys rhaglenni'r 大象传媒 sy'n cael eu darparu.

Roedd y ffilmio i fod i ailgychwyn ddechrau Gorffennaf ond ddeuddydd cyn yr oedd i fod i ddechrau cafodd y cynhyrchu ei ohirio.

Mewn datganiad dywed 大象传媒 Cymru: "Mae'r trafodaethau a'r cynllunio yn parhau a phawb yn gweithio i ailgychwyn y cynhyrchiad cyn gynted 芒 phosib ac mor saff 芒 phosib yn unol 芒'r canllawiau diweddaraf."

Dywedodd llefarydd ar ran 大象传媒 Studios: "Rydym yn parhau i weithio trwy ein cynllun i gael yr holl ddram芒u parhaus ar waith cyn gynted 芒 phosibl. Rydyn ni'n gobeithio gallu darparu eglurder pellach ar hyn yn fuan iawn."

Dywed S4C eu bod yn "edrych ymlaen at gael Pobol y Cwm yn 么l ar yr awyr", ond ychwanegodd mai "mater i'r 大象传媒 yw hwn".