Drwg a da y cyfnod clo i rieni bachgen awtistig
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod clo diweddar wedi bod yn heriol i nifer, ond i rai teuluoedd mae'r cyfyngiadau ar symud wedi golygu addasiadau mawr i'w ffordd o fyw.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Elin Llwyd Morgan sy'n fam i fachgen awtistig am brofiadau'r teulu o'r cyfnod.
"Roedd hi'n andros o anodd peidio gweld fy mab am fisoedd yn y cyfnod clo ond o edrych yn 么l efallai bod y cyfan wedi bod er gwell gan fod y misoedd diwetha' wedi dangos y gall Joel fyw yn gymharol annibynnol".
Mae Joel bellach yn 24 ac yn byw mewn cartref gofal yn Llandyrnog yn Sir Ddinbych. Cyn y cyfnod clo arferai ddod adre bob pythefnos am rai dyddiau ond oherwydd y cyfyngiadau a bod rhai staff a'r trigolion wedi cael prawf Covid-19 positif roedd yn rhaid i'r patrwm newid.
"Mae routine yn bwysig i berson awtistig ac mae Joel wastad wedi bod yn dod adre ar ddydd Mercher bob pythefnos ac aros tan ddydd Sadwrn ond yn sydyn cafodd y drefn arferol ei chwalu," meddai Elin.
'Dim Zoom, Skype na Facetime'
"Roedd hi'n lot gwell iddo aros yn y cartre yn ystod y cyfnod hwn na dod adre - mi fyddai Joel wedi bod mor rhwystredig adre o fethu 芒 dilyn ei batrwm arferol a chrwydro o gwmpas Glyn Ceiriog. Mi 'na'th o dderbyn y cyfan yn reit dda ac roedd ganddo fras syniad o beth oedd yn digwydd yn y byd.
"Yn ystod y cyfnod yma fe fydden i'n ffonio'r cartref yn gyson i weld sut oedd o - doeddwn ni ddim am ddefnyddio cyfryngau fel Zoom, Skype neu Facetime am nad oeddwn eisiau iddo hiraethu a mynnu dod adre pam nad oedd hynny'n bosib.
"Byddai wedi bod yn bosib iddo siarad 芒 ni pe bai'n gofyn ond 'na'th o ddim - ac felly doedd yna ddim cysylltiad uniongyrchol am fisoedd. Aethon ni draw i'r cartref unwaith a hynny i fynd 芒 teledu arall iddo - mewn pwl o rwystredigaeth ro'dd o wedi malu yr un oedd ganddo ond welson ni ddim mohono."
'A fydd Joel isio'n gweld ni eto?'
Ganol Gorffennaf wedi i'r haint glirio o'r cartref a phawb wedi hunanynysu am y cyfnod priodol roedd yna gyfle i Joel ddod adref o'r diwedd ond ddaeth e ddim.
"O'r diwedd mi ro'dd yna gyfle i'w weld - doeddwn ni ddim wedi'i weld ers pedwar mis. Fe ddaeth y penderfyniad yn go sydyn ond wedi'r edrych ymlaen do'dd Joel ddim am ddod adre," meddai Elin.
"Ro'dd hynny yn anodd iawn a dyma ddechrau meddwl a fyddai byth yn dod adre eto! Roedden ni wedi paratoi ar gyfer ei arhosiad, prynu'r petha mae o'n eu hoffi, ond efo Joel rhaid bod yn barod i ddisgwyl yr annisgwyl. Er ein bod yn siomedig, roedden ni'n gweld ar yr un pryd efallai bod y penderfyniad wedi bod yn rhy sydyn iddo - mae o angen amser i brosesu gwybodaeth."
Ddiwedd Gorffennaf fe ddaeth Joel adref am y tro cyntaf ers ganol Mawrth ac mi gafodd ddiwrnodau "reit fodlon yma dwi'n meddwl", ychwanega Elin.
'Angen hybu byw'n annibynnol'
"Dan ni'm yn gweld rhyw lawer ohono pan mae'n dod adre gan nad ydy o byth yn eistedd yn yr un ystafell 芒 ni. Mae'n dueddol o grwydro o gwmpas Glyn [Ceiriog], mynd ar y trampol卯n, a diddanu'i hun yn chwarae efo'i gamera a'i iPad.
"Dwi'n falch fod Joel wedi dod adre, ond roedd yn rhyddhad hefyd ei weld yn dychwelyd i'r cartre' yn ddiffwdan, gan ein bod wedi ofni y byddai'n gyndyn o fynd yn ei 么l ar 么l bod i ffwrdd cyhyd. Trwy fis Awst bydd yn dod adre bob pythefnos fel o'r blaen - mae'r dydd Mercher tan ddydd Sadwrn 'na wedi ei nodi'n glir yn ei galendr. Ond ar 么l hynny y gobaith ydy ymestyn yr amser rhwng ymweliadau.
"O edrych yn 么l ar y cyfnod hwn yr hyn sy'n fy nharo ydy bod Joel wedi dod yn fwy annibynnol, ac mae'n bwysig dal i hybu'r annibyniaeth hwnnw. Mae'r cyfnod yma wedi profi ei fod yn medru byw, yn gymharol hapus, heb fod yn or-ddibynnol arnom ni. Dwi wedi fy synnu braidd ond mae hynny'n beth da oherwydd yn 么l trefn pethau fe fydd o yma ar ein holau ni."
Yn y dyfodol y bwriad yw y bydd Joel yn symud i fyw at unigolyn arall mewn t欧 yn Wrecsam gyda'r gofal priodol.
"Mae'r cynlluniau yna on hold am y tro, ond dyna'r cam nesaf, er bod ganddon ni deimladau cymysg am hynny ag yntau'n amlwg wedi setlo cystal lle mae o. Er hynny, byddai'n dda iddo gael mwy o strwythur i'w ddyddiau ac o bosib wneud rhyw fath o waith. Mae o'n reit glyfar yn ei ffordd ei hun - yn llythrennog a llafar mewn dwy iaith, ond dydi o ddim yn or-hoff o wneud gwaith ymarferol.
"Pan oedd o'n Coleg Derwen yng Ngobowen, y coleg lle'r oedd o cyn dod i'r cartref, mi wnaeth o ddianc - ac un o'r rhesymau oedd nad oed yn hoffi brwsio! Er bod rhywun yn trefnu y camau nesaf iddo o hyd dydy rhywun ddim yn gwybod sut mae o am fod - mi gymrodd hi flwyddyn iddo setlo yng Ngholeg Derwen."
'Dim ots be' mae pobl yn ei feddwl'
Mae Elin a'i chymar Peris yn falch bod mwy o sylw bellach yn cael ei roi i awtistiaeth a bod pobl yn siarad yn agored am y cyflwr.
"Ar y dechrau doeddwn i ddim yn fodlon derbyn ei fod yn awtistig - mi o'dd o i weld yn hogyn digon siarp ond mi fyddai Joel yn gneud petha gwahanol fel troi beic ben i waered a chwarae efo'r olwyn a fyddai o ddim yn chwarae efo plant eraill.
"Mae'n gallu bod yn anodd - dwi wedi siarad o'r blaen am rwystredigaethau Joel yn ystod ei arddegau ac ugeiniau cynnar a chanlyniadau peryglus posib rheiny - ond mae hynny i weld yn gwella ac yn digwydd yn llai aml.
"Y peth mawr ydy peidio poeni be' mae pobl eraill yn ei feddwl. Mae rhaglen fel The A Word wedi helpu llawer ac mae'n hynod o bwysig rhannu profiadau.
"Er syndod efallai, o edrych yn 么l 'dydy'r cyfnod clo ddim wedi bod yn rhy ddrwg - mae o wedi dangos y gall Joel fyw heb fod yn rhy ddibynnol arnom ni ac mae hynny'n gysur mawr."
Hefyd o ddiddordeb: