大象传媒

Ceir wedi eu tynnu o Eryri am barcio'n 'beryglus'

  • Cyhoeddwyd
car ar loriFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth yr heddlu drydar lluniau rhai o'r cerbydau

Fe gafodd saith o gerbydau eu tynnu o ochr y ffordd ddydd Sadwrn gyda'r heddlu'n dweud fod pobl yn dal i barcio'n "beryglus".

Roedd caraf脿n ymhlith y cerbydau a dynnwyd o'r A5 yn Nyffryn Ogwen.

Daeth hyn yn dilyn golygfeydd o gannoedd o gerbydau wedi eu parcio'n anghyfreithlon ym Mhen-y-Pass ger Yr Wyddfa fis diwethaf.

"Er gwaethaf ein rhybuddion mae rhai wedi parhau i barcio'n anystyriol a peryglus yn [Nyffryn] Ogwen heddiw.

"Cerddwyr wedi cwyno i swyddogion eu bod wedi gorfod cerdded yn y ffordd," meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd rhaid i berchnogion y cerbydau dan sylw dalu i'w cael nhw yn 么l.

Mae meysydd parcio Eryri wedi bod yn brysur ers i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio a chaniat脿u i bobl deithio ymhellach.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn darparu gwybodaeth am lefydd yn eu meysydd parcio ar gyfer ymwelwyr.

Roedd eu swyddogion nhw, yr heddlu a swyddogion Cyngor Gwynedd ar ddyletswydd dros y penwythnos i "atgoffa gyrwyr o'u cyfrifoldebau".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carafan yn cael ei thynnu o'r A5 ger Llyn Ogwen