大象传媒

Achub pedwar o'r m么r oddi ar arfordir Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Bermo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth y pedwar i drafferthion oddi ar draeth Y Bermo

Mae pedwar o bobl wedi eu hachub o'r m么r ar 么l mynd i drafferthon mewn cerrynt cryf oddi ar draeth Y Bermo.

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans awyr eu hanfon i'r digwyddiad tua 13:30 ddydd Sul.

Cafodd tri ohonynt eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, un mewn hofrennydd a'r ddau arall gan gerbyd ambiwlans.

Does yna ddim rhagor o fanylion am eu cyflwr.

Dywed Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi eu bod wedi gorfod delio gyda nifer o achosion yn ystod y dydd.

Yn Abersoch bu'n rhaid i wylwyr y glannau a bad achub yr RNLI roi cymorth meddygol i dri o bobl oedd yn dioddef effeithiau oerfel ar 么l bod yn y m么r.

Mewn achos arall cafodd dyn ei achub o'r m么r yn Aberdyfi.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.