Adolygiad diogelwch ar draeth lle bu farw dyn

Ffynhonnell y llun, Kim Stevens

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Kim Stevens bod ei brawd Jonathan wedi "marw yn arwr"

Bydd mesurau diogelwch ar draethau yng Ngwynedd yn cael eu hadolygu wedi i dad farw wrth geisio achub ei blant o'r m么r.

Bu farw Jonathan Stevens, tad i saith o Telford yn Sir Amwythig, wedi iddo gael ei ddal mewn cerrynt ar draeth Y Bermo ddydd Sul.

Roedd Mr Stevens, 36 oed, wedi bod ar drip gyda'i deulu i'r ardal am y diwrnod.

Cafodd ei dynnu o'r m么r gan wardeniaid y traeth a'i gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw yno'n ddiweddarach.

Dywedodd ei chwaer Kim Stevens ei fod "wedi marw yn arwr wrth geisio achub bywydau ei blant".

'Trasiedi yr oeddem wedi ofni'

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, fod trasiedi fel hyn yn "rhywbeth yr ydym yn ei ofni" ac y byddai diogelwch ar draethau'r sir yn cael ei adolygu er mwyn ceisio gwella diogelwch "cystal ag y medrwn ni".

Ar raglen frecwast Radio Wales fore Mawrth, dywedodd fod traethau'r sir wedi bod yn orlawn ers i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio, ac nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol o beryglon y m么r.

"Rwy'n credu efallai mai un elfen yw bod angen i ni drosglwyddo'r neges yn iawn," meddai. "Mae'r m么r yn gallu bod yn ddeniadol iawn, ac ymddangos yn dawel, ond mae'n lle eitha' peryglus."

Disgrifiad o'r llun, Traeth y Bermo

Roedd chwech o wardeniaid traeth ar ddyletswydd yn Y Bermo, ac fe aethon nhw i'r m么r i achub dau blentyn a rhoi triniaeth CPR i Mr Stevens.

Dywedodd Mr Siencyn nad yw'r cyngor yn cyflogi achubwyr bywyd, a bod y wardeniaid - sydd ddim wedi eu hyfforddi i achub pobl o'r m么r - yn gwneud eu gorau "o dan amgylchiadau anodd iawn".

Yn dilyn trafodaethau gyda'r RNLI, sy'n darparu achubwyr bywyd, y penderfyniad oedd na fydden nhw "o reidrwydd yn gwella diogelwch ar y traeth," meddai Mr Siencyn.

"Dim ond tua 200m o draeth y medran nhw ofalu amdano, ac mae traeth Bermo yn filltiroedd o hyd. Mae gennym dros 100 milltir o draethau yng Ngwynedd."

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y dylai unrhyw adolygiad sicrhau bod traethau'r sir "mor ddiogel ag y gallan nhw fod am weddill yr haf" ac i'r dyfodol.

"Bob blwyddyn mae'n ymddangos fod rhyw drasiedi rhywle yn ne Gwynedd," meddai.