大象传媒

Cyhuddo Reach Plc o gefnu ar newyddion Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Papurau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Reach Plc sy'n cyhoeddi papurau fel y Wester Mail, Daily Post a'r South Wales Echo

Mae perchnogion papurau newydd yng Nghymru wedi cael eu cyhuddo o roi llai o sylw i newyddion lleol wrth iddyn nhw ymddangos o flaen pwyllgor diwylliant y Senedd.

Mae cwmni Reach Plc, sy'n berchen ar bapurau fel y Western Mail a'r Daily Post, a gwefan WalesOnline, yn bwriadu torri tua 20 o staff fel rhan o ailstrwythuro.

Dywedodd y cwmni bod y pandemig wedi cyflymu'r angen i newid y busnes.

Mae undeb newyddiaduraeth yr NUJ wedi rhybuddio y bydd yr ailstrwythuro yn golygu llai o ddeunydd Cymreig.

'Hollol amherthnasol'

Reach sydd hefyd yn gyfrifol am bapurau'r South Wales Echo, South Wales Evening Post, papurau wythnosol fel y Gwent Gazette a gwefan y Daily Post - North Wales Live.

Mae dau o uwch reolwyr Reach wedi bod yn rhoi tystiolaeth ddydd Mercher i ymchwiliad y pwyllgor diwylliant i effaith coronafeirws ar newyddiaduraeth a chyfryngau lleol.

Bu Alan Edmunds, cyn-olygydd y Western Mail sydd bellach yn uwch reolwr gyda Reach, a Paul Rowland, prif olygydd WalesOnline, yn ymddangos trwy gyswllt fideo.

Mae hyd at 90 o staff y cwmni yng Nghymru wedi cael gwybod bod eu swyddi nhw o bosib yn un o'r 20 fydd yn cael eu colli, ond fe wnaeth y rheolwyr amddiffyn yr ailstrwythuro.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Alun Davies bod ei bapur wythnosol lleol yn "hollol amherthnasol" iddo bellach

Ond fe wnaeth yr AS Llafur, Alun Davies feirniadu'r ffordd mae papurau wythnosol y Cymoedd wedi cael eu rheoli.

"Ry'ch chi wedi lleihau'r teitlau Celtaidd dros y degawd diwethaf - pan oeddwn i'n sefyll am etholiad ym Mlaenau Gwent fe fyddwn i'n gorfod ciwio er mwyn prynu'r Gwent Gazette," meddai.

"Ond rwy'n credu 'mod i wedi ei brynu ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf - mae'n hollol amherthnasol i mi, ac mae'n amherthnasol oherwydd y methiannau o ran rheoli'r teitl hwnnw."

Dywedodd Mr Rowland bod patrymau darllen eu cynulleidfa wedi eu gorfodi i newid eu busnes papurau newydd.

"Yr hyn ry'n ni wedi'i wneud ydy penderfyniadau anodd ar deitlau i gyd-fynd 芒'u gallu i gynhyrchu refeniw," meddai.

'Neb arall yn rhoi sylw i Gymru'

Ychwanegodd bod y feirniadaeth o WalesOnline yn tynnu sylw oddi ar y brif broblem, sef diffyg darparwyr newyddion sy'n rhoi sylw i Gymru.

"Mae lot o'r drafodaeth am wendid y cyfryngau yng Nghymru yn aml yn troi at feirniadaeth o WalesOnline, yn hytrach na'r gwir bwnc - sef diffyg unrhyw gyfryngau eraill sydd eisiau rhoi sylw i Gymru fel gwlad, fel ry'n ni'n ei wneud," meddai.

Dywedodd Mr Edmunds fod y cwmni wedi gorfod ymateb wrth i arferion darllen symud o bapurau newydd i wefannau, ond eu bod yn parhau'n gyndyn i gau'r papurau hynny.

"Dyw'r teitlau yma ddim wedi cau, ond yr hyn ry'n ni wedi'i wneud yw eu rheoli fel ein bod yn gallu parhau i'w printio, a gweithio'n galed iawn i ddatblygu llwyfannau digidol i'r cymunedau hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Martin Shipton y bydd "straeon generig" o Loegr yn cymryd lle erthyglau Cymreig

Dywedodd yr NUJ wrth y pwyllgor yn ddiweddarach y bydd yr ailstrwythuro yn golygu llai o sylw i Gymru, ac y bydd mwy o ddeunydd o Loegr y cael ei ddefnyddio i lenwi papurau a gwefannau yng Nghymru.

"Bydd llai o ohebwyr yng Nghymru, ac yn lle'r deunydd hwnnw bydd erthyglau sy'n cael eu darparu gan yr hyn mae'r cwmni'n alw'n 'uned rhannu deunydd'," meddai Martin Shipton, prif ohebydd y Western Mail a llefarydd yr NUJ ar ran gweithwyr Reach yn ne Cymru.

"Mae hwn wedi'i leoli yn Lloegr ac maen nhw'n cynhyrchu straeon generig."

Fe wnaeth uwch reolwyr Reach wfftio'r pryderon y bydd gan Loegr fwy o gyfrifoldeb dros wasanaethau yng Nghymru yn sgil y newidiadau.