大象传媒

Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar 么l gohirio'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Myrddin ap DafyddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cyfnod Myrddin ap Dafydd fel Archdderwydd yn parhau nes 2022

Bydd cyfnod Archdderwydd yr Orsedd yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall yn sgil gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Pleidleisiodd aelodau Gorsedd Cymru yn unfrydol i ymestyn cyfnod Myrddin ap Dafydd wrth y llyw mewn cyfarfod ddydd Iau.

Bydd ei gyfnod fel Archdderwydd yn dod i ben ar 么l tair Eisteddfod - yn Ll欧n ac Eifionydd yn 2022.

Mae'r Orsedd hefyd wedi newid y rheolau i olygu bod tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.

Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd: "Mi gafodd hynny ei gadarnhau yng nghyfarfod blynyddol Gorsedd Cymru... sef bod tymor Archdderwydd ac unrhyw swyddog neu aelod arall o'r bwrdd o hyn ymlaen yn golygu tair Eisteddfod yn hytrach na thair blynedd.

"Dwi'n falch iawn d'eud y gwir, mai fy Steddfod ola' i fydd yma yn Ll欧n ac Eifionydd.

"Dwi 'di cael dechra' yn fy mro enedigol yn Nyffryn Conwy, dwi 'di cael, gobeithio, ymweld 芒 Cheredigion lle dreuliais i amser braf iawn yn y coleg yn Aberystwyth, ac yna gorffen yn Ll欧n ac Eifionydd."

Ychwanegodd ei bod hi'n "chwith" bod y dathliad o dalentau Cymru wedi ei golli eleni, ond ei bod hi'n "dda bod yr Orsedd wedi cyhoeddi'r rhestr o'r rhai sy'n cael eu hurddo pan fydd yr urddo yn digwydd yn Nhregaron".

Ond dywedodd "fel pawb arall, mae 'na hen siom am y flwyddyn yma eleni".