Llifogydd sydyn yn taro rhan o dref Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae rhannau o ganol Aberystwyth wedi dioddef llifogydd brynhawn Llun, yn dilyn cawod drom a sydyn.
Roedd d诺r yn llifo ar hyd strydoedd y dref yng Ngheredigion am gyfnod, gan gasglu ar Rodfa'r Gogledd.
Mae'r ffordd honno yn parhau i fod ar agor er y cyfyngiadau coronafeirws sydd mewn grym ar hyd strydoedd eraill yn y dref.
Yn gynharach dywedodd Western Power Distribution bod dros 200 o gwsmeriaid heb b诺er mewn mannau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.
Dywedodd cwmni Scottish Power eu bod wedi bod yn delio 芒 thoriadau trydan mewn nifer o ardaloedd yn y gogledd hefyd, gan gynnwys Betws-y-coed, Caernarfon, Llanberis, Llandrillo-yn-Rhos a Thrawsfynydd.
Daw wedi adroddiadau o law trwm iawn a mellt a tharanau yn y gorllewin, gan gynnwys ardaloedd G诺yr, Llandeilo a Cheinewydd.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod wyth achos o lifogydd yn y dref yn ymwneud 芒 llifogydd mewn nifer o gartrefi, ac roedd un achos wedi effeithio ar eiddo masnachol.
Dywedodd Nicola Gilmour, perchennog bwyty Little Italy eu bod wedi cael llifogydd sawl tro o'r blaen, ond mai hwn oedd y gwaethaf.
"Mae'r arogl carthffosiaeth yn gryf ac fe allwch chi weld pam - mae'r draen tu allan wedi cael ei flocio yn llwyr."
Nid yw'r bwyty ar agor ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, a nawr ni fydd modd iddyn nhw agor am beth amser eto.
Un arall gafodd ei heffeithio gan y llifogydd oedd Leah Baird, oedd i fod i symud allan o'i fflat ddydd Llun i mewn i fflat arall yn y dref.
"Dyma ein hail lifogydd, ond yn ffodus - i ryw raddau - nid ydym wedi colli cymaint a hynny achos roedden ni i fod i symud allan o'r fflat yma heddiw, felly mae'r rhan fwyaf o'n heiddo ni allan yn barod."
Dywedodd ei landlord fod y tenant newydd i fod i symud i mewn i'r fflat oedd wedi dioddef llifogydd ymhen pythefnos.
Dywedodd gohebydd 大象传媒 Cymru, Sara Gibson, oedd yn Aberystwyth ar y pryd bod yr "awyr yn ddu" a'r glaw wedi syrthio "fel d诺r o fwced ar ben y dref".
"Ond fe aeth y d诺r i lawr yr un mor gyflym ac yr ymddangosodd, gyda fflatiau, selars a busnesau yn drewi dan oglau carthffosiaeth, a'r budreddi yn dew dros y drysau a'r welydd."
Rhybudd melyn
Daeth y llifogydd i'r dref wedi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau difrifol dros y DU gyfan ddod i rym am hanner nos ddydd Sul am 24 awr.
Er bod y rhybudd yn dweud fod yna ansicrwydd am leoliad ac union amseru'r stormydd, roedd na ddarogan y byddai rhai cawodydd yn rhai trymion iawn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai cartrefi a busnesau weld llifogydd yn gyflym yn yr ardaloedd gwaethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020