Tomenni sbwriel 'anghredadwy' ar dir comin hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerffili'n apelio ar bobl i barchu ardaloedd cefn gwlad wedi i rywrai amharu ar safle o bwys hanesyddol trwy dipio sbwriel yno'n anghyfreithlon.
Roedd soffas, peiriannau cegin a ffenestri ymhlith y tomenni sbwriel a bwyd pydredig a gafodd eu gwaredu ar Gomin Gelligaer, ger Caerffili - cartref tomen gladdu o'r Oes Efydd.
Yn 么l un teulu, oedd yn ymweld 芒'r comin, roedd yr olygfa'n "anghredadwy" a'i fod yn "ofnadwy i weld ardal mor hardd wedi ei difetha fel hyn".
Dywedodd y cyngor: "Mae ein timau gorfodaeth yn gweithio'n galed, ond yn amlwg mae yna fannau mawr o dir comin a chefn gwlad agored yn yr ardal yma, sydd yn anffodus yn cael eu targedu gan leiafrif difeddwl.
Ychwanegodd llefarydd y cyngor eu bod yn gweithredu'n "llym yn y frwydr yn erbyn tipio ac rydym wastad yn pwyso am erlyniad bob tro mae yna dystiolaeth".
"Y neges hanfodol yw i bobl fod yn ystyriol a pharchu ein cefn gwlad prydferth, a hefyd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i'r cyngor o'r hyn maen nhw'n ei weld fel ein bod yn gallu gweithredu'r briodol."
Yn 么l Cadw, y corff sy'n gwarchod adeiladau a safleoedd hanesyddol Cymru, mae gan Gomin Gelligaer "dirwedd archeolegol ryfeddol".
Yn ogystal 芒 sawl carnedd sy'n gysylltiedig 芒 chwedl y Brenin Arthur, mae'r safle hefyd yn cynnwys cerrig coffa sy'n dyddio o'r 16eg ganrif ac olion hen ffordd Rufeinig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020