Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oriel: Portread o gymuned Wrecsam yn y pandemig
Mae Carwyn Rhys Jones yn ffotograffydd sydd hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol yn ardal Wrecsam, un o'r ardaloedd sydd wedi gweld rhai o'r niferoedd uchaf o achosion o Covid-19 yng Nghymru.
Ar ddechrau cyfnod y pandemig roedd Carwyn eisiau cofnodi'r effaith ar ei gymuned ac yn enwedig ar y gweithwyr allweddol oedd yn cadw pethau i fynd drwy'r cyfan.
Mae ei luniau yn bortread o ardal a phobl Wrecsam yn ystod y cyfnod hanesyddol yma ac fe fyddan nhw'n cael eu harddangos yn amgueddfa'r dref maes o law.
Kashyapa Kodagoda yn ei fenig a'i fwgwd tu allan i'w siop yn Gwersyllt.
"Roeddwn i eisiau dogfennu pob maes allweddol roedd Covid wedi effeithio arno, gan gynnwys siopiau lleol."
Alana Simpson, Jayne Galante, Joanne Richards, Joanne Canlas a Dr Andy Cambell, Ysbyty Maelor Wrecsam.
"Roeddwn i yn teimlo ei bod yn flaenoriaeth i ddogfennu gweithwyr allweddol am bod nhw wedi bod mor bwysig yn ystod y pandemig yma, yn enwedig gweithwyr ysbyty sy'n delio gyda phobl efo Covid-19."
Stryd Hope, un o brif strydoedd Wrecsam, yn wag ar ddechrau'r pandemig.
"Dwi erioed wedi gweld y stryd yn hollol wag a neb yn cerddad o gwmpas o'r blaen."
Pennawd papur newydd yn dweud wrth bobl am aros adref.
"Nes i dynnu hwn bron ar ddechrau'r priosect. Dwi'n teimlo ei fod reit hanesyddol i'r heddlu ddweud wrthan ni am aros adref."
Steffan Jarvis un o weithwyr ambiwlans Wrecsam yn eu pencadlys yn Wrecsam.
"Mae gweithwr allweddol wedi rhoi gymaint i helpu i achub bywydau pobl eraill."
Aled Lewis Evans, gweinidog, bardd ac awdur, a chyn athro, o flaen ei ddrws ffrynt.
"Roedd hwn wedi ei dynnu yn mhart o'r priosect lle roeddwn yn tynnu lluniau pobl o flaen eu drws ffrynt yn y cyfnod pan oedd pobl yn gorfod ynysu."
Plant Ysgol Bodhyfryd mewn rhes yn disgwyl i allu mynd i mewn i'r ysgol gyda'u hathrawes, Rhiannon Williams.
"O'n i erioed wedi gweld plant yn gorfod dilyn trefn fel hyn o ddisgwyl i fynd i fewn i'r ysgol a gorfod cadw dau fedr o'i gilydd o'r blaen."
Aelod o'r heddlu ym mhentref Rhosllannerchrugog.
"Wnes i dynnu'r llun yma i ddogfennu'r heddlu yn gwisgo mwgwd. Maen nhw wedi bod yn gweithio mor galed i gadw Wrecsam yn saff trwy'r pandemig yma."
Rhes o bobl ddwy fedr o'i gilydd wrth aros i fynd i mewn i'r fferyllfa yn stryd uchaf Rhosllannerchrugog.
"Roeddwn yn pasio'r stryd a wnes i sylwi y byse'r llun yma yn gr锚t i'r priosect am ei fod yn amlwg am Covid."
Jenny Humphreys a'i theulu o flaen ei th欧 yn Wrecsam.
"Athrawes ydi Jenny ac roeddwn i'n meddwl bysa fo'n ddiddorol dogfennu athrawon yn gweithio o'u cartref pan oedd yr ysgolion wedi cau."
Bethany Jones yn cadw golwg o'r t欧 tra mae ei mab Theo yn cael awyr iach a chwarae yn yr ardd ar ddechrau'r pandemig.
"Mae enfys fel hwn wedi ymddangos ar sawl t欧."
Lowri Jones a Sharron Harrison yn sgwrsio yn yr ystafell staff yn Ysgol ID Hooson.
"O'n i'n meddwl bod o'n ddiddorol sut roedd yr ystafell staff wedi newid a'r staff yn gorfod cael dau fedr rhyngddyn nhw."
Dosbarth yn Ysgol ID Hooson ddechrau'r haf pan oedd nifer cyfyngedig o blant yn gallu bod mewn dosbarth ar yr un pryd oherwydd y rheolau pellter.
"Roeddwn i eisiau dangos i bobl sut oedd dosbarthiadau wedi newid yn ystod y pandemig. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig i ddogfennu'r newidiadau hanesyddol yma."
Llun arall o Kashyapa yn ei siop yn Gwersyllt.
"Roeddwn eisiau dangos Kash efo'r sgr卯n iechyd o'i flaen, ac yn gwisgo ei fwgwd a'i fenig tra roedd yn gweini cwsmeriaid yn y siop. "
Chris Evans efo'i deulu o flaen eu drws ffrynt.
"Athro ydi Chris ac mae'n byw yn ganol Wrecsam. Roeddwn yn awyddus i dynnu lluniau athrawon yn enwedig o flaen eu drysau ffrynt."
Hefyd o ddiddordeb: