Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Technoleg newydd i helpu cleifion canser yr ysgyfaint
Mae technoleg newydd sy'n gallu canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar bellach ar gael i gleifion ledled gogledd Cymru.
Mae'r broses yn defnyddio technoleg sy'n debyg i GPS er mwyn llunio map 3D o'r ysgyfaint.
Mae hyn yn helpu doctoriaid i gyfeirio cathetr drwy lwybrau mwyaf cymhleth yr ysgyfaint.
Dywed yr ysbyty fod y broses yn caniat谩u i feddygon wneud diagnosis a pharatoi i drin briwiau canseraidd gan "ddefnyddio un dull, cyn gynted 芒 phosib".
Ysbyty Glan Clwyd ydy'r ysbyty cyffredinol cyntaf yng Nghymru, a'r ail yn y DU, i ddefnyddio'r system benodol yma.
'Rhoi triniaeth yn gynt o lawer'
Dywedodd Dr Daniel Menzies, ymgynghorydd mewn meddygaeth anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd: "Yn y gorffennol, gallai fod wedi bod yn anodd iawn ceisio rhoi diagnosis i glaf gyda'r math hwn o diwmor.
"Efallai y bu'n rhaid i ni orfod eu gwylio dros fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd cyn i ni fod yn sicr.
"Yn anffodus weithiau dros y cyfnod gall y claf ddod yn fwy yn s芒l ac yn fregus, gan olygu bod eu hopsiynau triniaeth yn dod yn fwy cyfyngedig.
"Gan ddefnyddio'r dechnoleg hon gallwn gyrraedd yno'n gyflymach a rhoi'r driniaeth iddyn nhw'n gynt o lawer."
Mae'r dechnoleg, sydd werth 拢130,000, wedi cael ei ariannu gan roddion gan gleifion a'r gymuned drwy elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las.