大象传媒

Ateb y Galw: Yr actor Tom Blumberg

  • Cyhoeddwyd
Tom BlumbergFfynhonnell y llun, Tom Blumberg

Yr actor Tom Blumberg sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Tonya Smith yr wythnos diwethaf.

Mae Tom yn wreiddiol o'r Barri. Ar 么l treulio 11 mlynedd yn Llundain, symudodd yn 么l i Gaerdydd yn 2018. Bu'n chwarae cymeriad Paul yn Rownd a Rownd o 2010 i 2013 ar 么l gorffen coleg, cyn symud ymlaen i wneud fwy o waith theatr ac yn ddiweddar mae wedi dechrau ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y teledu.

Mae newydd ddyweddio 芒'i gariad o bum mlynedd, ond heb allu dathlu yn iawn eto, oherwydd y lockdown!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cof ofnadwy gyda fi! Meddwl yr atgof cynta' yw gwyliau carafan yn Ninbych y Pysgod, a gwnaeth fy mrodyr (sy'n h欧n na fi) dringo carreg enfawr ar y traeth a tries i ymuno mewn... ond o'n i'n rhy fach a wnes i sleidio lawr ochr y garreg a chrafu fy nghoesau i gyd. Lot o grio ar 么l hwnna!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Esmeralda o The Hunchback of Notre Dame, Disney. Sori, ond pwy o'dd ddim yn ffansio Esmeralda?!

Ffynhonnell y llun, The Hunchback of Notre Dame
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Esmeralda, y sipsi, sydd yn dod yn ffrind i Quasimodo yn y stori The Hunchback of Notre Dame

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio mynd mas ar nos Calan Gaeaf yn 'neud trick or treat. Fe es i gyda cwpwl o ffrindiau a galw ar nh欧 un o ffrindiau Mam o gwaith. Wedon ni 'trick or treat' ac fe wedodd hi 'I will get you a treat, but what would you have done if I'd said trick?'. Yn sydyn, fe wnaeth fy ffrind dynnu pecyn o flawd allan o'i boced a dweud 'flour in your face' ac fe daflodd e'r blawd at wyneb y fenyw.

Aeth e mewn i'w llygaid hi, ac odd hi mor grac! Wedodd hi wrth Mam y diwrnod wedyn a ges i gymaint o st诺r!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wnes i grio ddoe yn gwylio Say I Do ar Netflix. Rhaglen MOR hyfryd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Os nad oes unrhywbeth 'da fi i 'neud yn y bore, dwi mor wael am orwedd yn y gwely am awr neu ddwy yn chwarae ar gemau ar fy ff么n.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dylen i ddweud Ynys y Barri, fel boi o'r Barri. Ond dwi'n credu, ma' 'na un ardal o ffordd pan y'ch chi'n gyrru o Aberystwyth i Lundain, tua 20 munud tu fas i Aber.

Chi'n gyrru rownd ochr mynydd a ma'r olygfa yn hollol anghredadwy. Dwi ddim yn cofio enw'r ffordd ond dwi wastad yn meddwl wrth i fi yrru heibio fyn'na 'Duw, ma' Cymru'n bert!'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Es i i Efrog Newydd yn 2016 am ddau fis i wneud cwrs actio, a un o'r pethau o'n i wir mo'yn neud o'dd eistedd yn Brooklyn wrth ymyl y d诺r, edrych draw ar Manhattan a'r skyline, a gwrando ar un o fy hoff ganeuon - City gan Sara Bareilles.

O'dd fy nghariad yna gyda fi am yr wythnos gynta'. 'Nethon ni ffeindio rhywle o'dd yn gwerthu hufen i芒 gyda pretzels ar y top (amazing) a 'nethon ni eistedd a dechrau'r g芒n, ac yn sydyn, dechreuodd t芒n gwyllt codi o ochr arall y d诺r - parti neu rhywbeth - ond fe wnaeth e 'neud i'r foment yna o'n i wedi breuddwydio amdano yn hollol magical.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Bodlon. Cynhyrchiol. Cefnogol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi'n darllen lot, felly ma hwnna'n rhy anodd!

Hoff ffilm yw Forrest Gump. Dwi wastad wedi mwynhau dysgu am hanes America, a ma'r ffilm yma yn edrych arni mewn ffordd ddoniol, hwyl ond hefyd emosiynol dros ben. (Hefyd Tom Hanks a Sally Field = winner!).

Ffynhonnell y llun, Forrest Gump
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Forrest Gump: Hanes America drwy lygaid un g诺r ifanc o Alabama

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan o'n i'n 18, wnes i weithio am flwyddyn yn y popty yn Amgueddfa Sain Ffagan lle o'n i'n creu bara fel bydde pobl wedi gwneud 100 o flynyddoedd yn 么l. Fi oedd yn pobi'r bara a'r bwyd i gyd, felly, dwi wastad yn jocan fy mod i'n qualified baker. Ha!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bydden i mo'yn gwario fe gyda fy nheulu a ffrindiau agos yn Disney World. Dwi'n hollol obsessed gyda roller coasters!

Beth yw dy hoff g芒n?

Mor anodd. Dwi'n hoffi lot o genres gwahanol. Dwi'n credu Mr Blue Sky gan ELO - wastad yn codi calon!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Joanna Lumley. Bydde hi'n gymaint o sbort!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy Joanna Lumley mor wyllt 芒'i chymeriad enwocaf, Patsy o Absolutely Fabulous, tybed?

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Camembert. Cinio dydd Sul. Cacen Penblwydd (fun fact; weithiau dwi'n prynu cacen penblwydd i fyta pan does neb yn cael penblwydd... mor lysh gyda paned o de!)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

叠别测辞苍肠茅. Obvs.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Elen Morgan

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw