Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Siom, dryswch a phryder' penaethiaid y gogledd
Mae corff sydd yn cynrychioli penaethiaid ysgolion yn y gogledd wedi cyhoeddi datganiad sydd yn datgan "siom, dryswch a phryder" am y canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau.
Dywedodd datganiad gan Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Gogledd Cymru fod "gwahaniaethau mawr yn neilliannau unigolion nad oes modd i ni eu holrhain, eu cyfiawnhau na'u hegluro", a bod graddau disgyblion "wedi symud i fyny ac i lawr, mewn ffyrdd nad ydym yn gallu eu hamgyffred."
Brynhawn Gwener cyhoeddwyd y bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y mater.
Mae awdurdodau addysg lleol ac undebau addysg eisoes wedi lleisio eu pryderon am y broses safoni gafodd ei defnyddio yn dilyn cyhoeddi'r canlyniadau.
Galwodd Colegau Cymru, y corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach am "adolygiad brys" i'r broses safoni arholiadau.
Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau ddydd Iau fod y graddau yn rhai "ystyrlon a chadarn", ac mae'r gweinidog addysg wedi amddiffyn y system.
Redd cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr Safon Uwch sydd wedi derbyn y gradd uchaf posib, A*, ond roedd y canlyniadau terfynol ar gyfartaledd dipyn yn is na'r rhai a gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon, cyn cael eu haddasu'n ddiweddarach gan y bwrdd rheoli.
'Dibrisio a ddiystyru'
Dywedodd datganiad Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Gogledd Cymru fod ysgolion wedi cael cais i ystyried yr holl ddata o brofion mewnol ac allanol "i restru, mewn trefn, graddau dysgwyr wedi'u hasesu gan ganolfan."
"Gwnaethom hyn gyda phroffesiynoldeb a thegwch i'r myfyrwyr y buom yn eu cefnogi am y saith mlynedd diwethaf.
"Mewn llawer o feysydd, cafodd y data hwn ei wrthod, ei ddibrisio a'i ddiystyru. Diystyrwyd ein rhestri ni a symudwyd myfyrwyr oddi mewn iddynt, gan olygu bod y dyraniad gradd yn amhosibl i'w ddirnad ac yn annheg."
Ychwanegodd y datganiad fod penaethiaid yn pryderu am ddyfodol y disgyblion oedd wedi eu heffeithio, a hwythau yn barod yn gorfod ymdopi gydag ansicrwydd economaidd y pandemig coronafeirws:
"Bydd graddau ein disgyblion yn aros gyda nhw am weddill eu hoes, byddant ar eu CV am byth. Maent eisoes dan anfantais oherwydd COVID-19, ond bydd bywyd ar 么l COVID, mewn gwlad sydd yn wynebu dirwasgiad, yn golygu y bydd eu deilliannau hyd yn oed yn bwysicach nag erioed wrth iddynt gamu i farchnad lafur heriol.
"Gweithiodd ein myfyrwyr am y graddau hyn, ac maent yn deilwng ohonynt; mae algorithm sydd yn diystyru hyn yn anfoesol... Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yw un o'r rhai hapusaf yn y flwyddyn, fel arfer. Eleni, roedd ein plant wedi'u brifo a'u drysu, ac yn pendroni beth aeth o'i le, fel ninnau."
Dywedodd y Ffederasiwn fod canlyniadau'r wythnos hon wedi "herio hyder penaethiaid y gogledd yn y system, ac yn gwneud i ni amau'r strwythur yr oeddem gynt yn ymddiried ynddi; er hynny, nid oes geiriau i ddisgrifio ein hofnau am ganlyniadau TGAU wythnos nesaf."
Mewn cyfweliad 芒'r 大象传媒 brynhawn Iau, dywedodd y Gweinidog Addysg bod y system yn deg ac yn "gadarn".
Dywedodd Kirsty Williams bod y broses yn drylwyr, ac er ei bod yn difaru ei bod wedi gorfod gwneud newidiadau hwyr, y "gallai disgyblion fod yn gwbl hyderus bod yr arholiadau gafodd eu cyhoeddi llawn cystal 芒'r rhai gafodd eu cymryd y flwyddyn ddiwethaf".
Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr wedi eu derbyn i brifysgolion y bore 'ma yn dangos yr hyder sydd gan y system brifysgolion mewn myfyrwyr o Gymru."
Yn y cyfamser mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi ysgrifennu at y prif weinidog i geisio cisrhau bod disgyblion a gafodd raddau is yn derbyn y graddau amcangyfrifol yn eu lle.
Ychwanegodd Mr Price y dylai hyn hefyd fod yn berthnasol o ganlyniadau TGAU yr wythnos nesaf, "a dylai hyn gael ei gyfathrebu i ddysgwyr heddiw, er mwyn tawelwch meddwl".
Adalw pwyllgor
Yn dilyn canlyniadau Safon Uwch yr wythnos hon a chyda chanlyniadau TGAU yr wythnos nesaf, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cael ei adalw ar frys.
Yn 么l Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Mae gan ein Pwyllgor r么l bwysig wrth ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif ar y penderfyniadau a wneir wrth ymateb i'r pandemig.
"O ystyried y pryderon a'r cymhlethdodau sylweddol o ran dyfarnu canlyniadau arholiadau eleni, byddwn yn cyfarfod ar frys i ofyn am eglurder i'r rhai sydd wedi bod drwy'r broses heriol hon mewn cyfnod digynsail."
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Mawrth 18 Awst. Mae wedi gwahodd CBAC, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ac i ateb cwestiynau.