大象传媒

Eryr aur olaf Cymru wedi marw ym Mynyddoedd y Cambrian

  • Cyhoeddwyd
Eryr aur TregaronFfynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan

Mae eryr aur sydd wedi bod yn hedfan uwchben canolbarth Cymru dros y 12 mlynedd ddiwethaf wedi cael ei ddarganfod yn farw.

Cafodd corff yr aderyn ei ddarganfod gan gerddwr yn ardal Abergwesyn ym Mhowys ar 6 Awst.

Dywedodd y naturiaethwr Iolo Williams bod marwolaeth yr eryr aur olaf yng Nghymru yn "fwy na dim ond marwolaeth yr aderyn".

Roedd yr eryr, oedd yn mesur 2.2m o un pen ei adenydd i'r llall, i'w gweld yn aml yn ardal Mynyddoedd y Cambrian, ac roedd pobl yn teithio yno yn y gobaith o'i gweld.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Iolo Williams wedi dilyn yr eryr yn ardal Mynyddoedd y Cambrian yn ei gyfres deledu bresennol ar y 大象传媒

Wrth glywed y newyddion am farwolaeth yr eryr, dywedodd Mr Williams bod "tranc yr aderyn godidog hwn yn fwy na marwolaeth eryr yn unig".

"Mae ardal Tregaron wedi colli un o'i chymeriadau gwych, ac mae Cymru wedi colli cysylltiad amlwg i'w gorffennol pell," meddai.

"Rydyn ni'n wlad dlotach hebddi."

Cafodd corff yr eryr ei gasglu gan aelod o griw teledu Mr Williams, sydd wedi sicrhau ei gofrestriad yn y Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiad Bywyd Gwyllt. Cynllun yw hwn sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru.

Ar dramp i weld yr eryr

Un sydd wedi cael ei siomi o glywed am farwolaeth yr eryr ydy Dafydd Wyn Morgan o Dregaron, sydd wedi bod yn arwain teithiau cerdded ym Mynyddoedd y Cambrian yn y gobaith o weld yr aderyn.

"Benyw oedd hi, ac roedd hi wedi dod i fyw yn yr ardal yma ar 么l dianc o fridfa rhyw 12 mlynedd yn 么l," meddai

"Pan o'n i'n arwain teithiau cerdded i Flaencaron a Chwm Berwyn ro' ni'n guaranteed o'u gweld hi yna."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr aderyn ei ddarganfod yn farw gan gerddwr ym Mhowys ar 6 Awst

Ychwanegodd: "Tua 2015/16, ro'n i'n mynd allan gyda chriw cerdded Tregaron, ac fe fues i'n tynnu eu coes nhw yn holi os oedden nhw wedi gweld eryr o'r blaen.

"Y rheswm nes i 'na achos o'dd hi ar fin codi o'r cae ar ein pwys ni. Stopiodd e ni in our tracks.

"O'dd hi o leia' saith troedfedd, ac o'dd hi'n neud s诺n hefyd, yn galw yn yr awyr.

"Mae'n drist iawn meddwl ei bod hi wedi mynd, ac mae'n anarferol bod un yn marw yn y gwyllt fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dafydd Wyn Morgan roedd yr eryr aur yn cael ei bwlio yn aml gan adar eraill

Mae'r creadur aruthrol wedi diflannu i raddau helaeth o Gymru a Lloegr er 1850 gyda'r unig gadarnle yn y DU ar 么l yn Yr Alban.

Mae sgyrsiau am y rhywogaethau sy'n cael eu hailgyflwyno i Gymru ar y gweill, gyda Phrifysgol Caerdydd yn cynnal prosiect i edrych ar y posibilrwydd o wneud hynny.

Mae achos marwolaeth yr aderyn yn parhau i fod yn anhysbys ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.