Ymgyrch recriwtio ar gyfer brechlyn Covid-19

Ffynhonnell y llun, NurPhoto

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer ymchwil i ddod o hyd i frechlyn effeithiol ar gyfer coronafeirws.

Yn 么l Llywodraeth y DU mae dros 100,000 o bobl eisoes wedi ymuno 芒 Chofrestrfa Ymchwil Brechlyn Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Er mwyn galluogi astudiaethau brechlyn ar raddfa fawr i gael eu cynnal ledled y DU, y nod yw sicrhau bod cymaint o bobl 芒 phosibl yn ymuno 芒'r gofrestrfa erbyn mis Hydref.

Mae ymchwilwyr yn croesawu pobl o bob rhan o gymdeithas, yn enwedig y rhai sy'n fwy tebygol o elwa o frechlyn.

Yn eu plith mae pobl dros 65 oed, gweithwyr iechyd rheng flaen a gweithwyr gofal cymdeithasol, a'r rheiny o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn 么l y llywodraeth bydd yr astudiaethau clinigol yn helpu i gyflymu'r ymdrechion i ddarganfod brechlyn diogel ac ymarferol.

Datblygwyd y Gofrestrfa gan y llywodraeth, mewn partneriaeth 芒'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), NHS Digital, llywodraethau'r Alban a Chymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Bydd y treialon clinigol yn cychwyn yn yr hydref.