Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweld 'tornado' posib uwchben rhannau o Gymru
Fe wnaeth nifer o bobl adrodd eu bod wedi gweld cymylau tebyg i rai sydd yn cael eu creu gan dornado ar hyd Cymru ddydd Sul.
Fe ffilmiodd Daniel Meredith o Gaerffili olygfa o'r cymylau arbennig yn Aberhonddu.
Fe wnaeth dyn tywydd 大象传媒 Cymru, Derek Brockway hefyd ail-drydar lluniau o'r ffenomena yn ardal Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog a Chors Magwyr ger Casnewydd.
Dywedodd Mr Brockway fod yn rhaid i waelod cwmwl twndis neu dwmffat gyrraedd y ddaear er mwyn i gwmwl o'r fath gael ei alw'n dornado, ac nid oedd yn eglur o'r delweddau yr oedd wedi ei weld os oedd hyn wedi digwydd.
Mae Mr Meredith wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru yn ceisio cofnodi delweddau o fellt, taranau a ffenomena eraill dros yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd: "Roeddwn yn edrych ar draws i gyfeiriad Glynrhedynog yn gyntaf ac yna fe es i dros y top i edrych i gyfeiriad Caerdydd.
"Fe edryches i o gwmpas a gweld y twndis ar ochr arall y bryn. Roedd yn wallgof sut y digwyddodd o."
Dywedodd Mr Brockway: "Iddo fod yn dornado go iawn, byddai angen i'r cwmwl twndis sydd yn ymestyn o waelod y cwmwl gyffwrdd y ddaear.
"Mae'r tywydd wedi bod yn ansefydlog a thrymaidd yn ddiweddar gyda phwysedd isel yn cynhyrchu cawodydd trymion a stormydd. Weithiau mae rhain yn creu cymylau twndis."
Cafodd cwmwl o'r math yma ei weld dros Sianel Bryste ddydd Sul ychydig cyn i storm daro am 16:00.
Roedd modd gweld cwmwl troellog am tua 15 munud, ac roedd yn ymddangos ei fod yn codi ewyn o'r m么r.
Yn 么l y Swyddfa Dywydd mae cymylau twndis, sydd hefyd yn cael eu galw'n gymylau tiwba, yn cael eu creu pan fod gwynt sydd yn troelli yn sugno dafnau o gymylau.
Maen nhw'n cael eu diffinio fel colofn dd诺r os ydynt yn cyffwrdd d诺r, neu'n dornado os ydynt yn cyffwrdd tir.
Gan amlaf maent yn cael eu gweld cyn cawodydd trymion o law, neu pan fydd cenllysg, mellt neu daranau ar fin taro.