´óÏó´«Ã½

Safon Uwch: Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd
ArholiadauFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymddiheuro "yn ddiamod" i fyfyrwyr am yr hyn sydd wedi digwydd wrth drin graddau myfyrwyr Safon Uwch eleni.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Addysg y Senedd dechreuodd drwy ddarllen datganiad a oedd yn dweud: "Mae'n iawn fy mod yn ymddiheuro'n uniongyrchol ac yn ddiamod i'n pobl ifanc".

Daw hyn wedi ei chyhoeddiad ddydd Llun fod y system sydd wedi dyfarnu canlyniadau Safon Uwch eleni yn cael ei hepgor, ac fe fydd myfyrwyr yn derbyn graddau ar sail asesiadau athrawon.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Dechrau Cartref

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Dechrau Cartref

Bydd adolygiad annibynnol, meddai, gyda manylion pellach i'w cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd Kirsty Williams iddi ddod yn ymwybodol gyntaf o nifer y myfyrwyr oedd yn cael eu hisraddio ddydd Llun yr wythnos diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Sul fe wnaeth nifer o ddisgyblion brotestio yn erbyn y canlyniadau a roddwyd iddynt

Ger bron yr un pwyllgor dywedodd prif weithredwr bwrdd arholi Cymru, CBAC ei fod yn "siomedig" fod y llywodraeth wedi gwneud tro pedol ar fater safoni arholiadau Safon Uwch myfyrwyr eleni.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod y system sydd wedi dyfarnu canlyniadau Safon Uwch eleni yn cael ei hepgor, ac fe fydd myfyrwyr yn derbyn graddau ar sail asesiadau athrawon.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "gefnu" ar rai disgyblion ar ôl i 42% o'r graddau Safon Uwch eleni gael eu hisraddio gan archwilwyr arholiadau allanol.

40.4% yn cael A neu A*

Yn y sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd fe wnaeth prif weithredwr CBAC amddiffyn yr algorithm a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer canlyniadau Safon Uwch.

Dywedodd Ian Morgan y byddai'r system wedi golygu y byddai graddau A* i E wedi bod i fyny 1% ers y llynedd.

Byddai A* i A wedi codi 2.9% meddai gydag A* i fyny 0.1% ers 2019 ac 1.7% o ymgeiswyr yn cyrraedd y lefel honno.

Wrth ymddangos gerbron pwyllgor addysg y Senedd dywedodd fod y penderfyniad i ddefnyddio amcangyfrifon athrawon yn lle hynny yn golygu bod 99.9% o ymgeiswyr yn cyflawni graddau A* i E.

Erbyn hyn roedd cynnydd o 13.4% yn yr ymgeiswyr sydd yn cyrraedd A* i A. Mae hynny yn golygu bod 40.4% wedi cyrraedd y safon honno.

Roedd y radd A* wedi'i dyfarnu i 15.4% o ddisgyblion, cynnydd o 6.3% ar ganlyniadau 2019, meddai Mr Morgan.

Dywedodd Ian Morgan hefyd wrth aelodau pwyllgor addysg y Senedd iddo gael ei synnu gan gryfder y farn yn erbyn y canlyniadau a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf.

Bwriad CBAC, meddai, "oedd cynnal safonau canlyniadau o flynyddoedd blaenorol ac i'r dyfodol".

Ychwanegodd Mr Morgan bod chwyddiant graddau ar gyfer myfyrwyr eleni yn "destun pryder posib" i'r bwrdd arholi ac y gallai hyn gael effaith ar garfan y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau o bellter diogel yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ddydd Iau diwethaf

Gwneud tro pedol ar safoni arholiadau Safon Uwch myfyrwyr eleni oedd "y peth iawn i'w wneud fel nad yw disgyblion dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU," meddai David Jones, cadeirydd Cymwysterau Cymru wrth aelodau pwyllgor addysg y Senedd.

Ychwanegodd: "Mae'n ddrwg gennym fod dysgwyr wedi mynd trwy'r cyfnod cythryblus hwn, a gwyddom fod yr hyn sydd fel arfer yn gyfnod pryderus wedi'i waethygu eleni."

Mae saith o brifysgolion Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn anrhydeddu cynigion sydd wedi eu gwneud i fyfyrwyr yn seiliedig ar eu graddau diwygiedig.

Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyhoeddi cynigion cyffredinol i holl geisiadau am lefydd yno ym mis Mawrth, ac mae'r system glirio yn cael ei defnyddio yno i gynnig lle i fyfyrwyr sydd wedi derbyn graddau gafodd eu diwygio yn dilyn y tro pedol.

'Angen osgoi hyn eto'

Nos Fawrth dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle: "Yr hyn sy'n bwysig nawr yw sicrhau bod y bobl ifanc hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y system hon yn cael eu cefnogi a'u bod yn gallu symud ymlaen gyda'r camau nesaf yn y llwybrau gyrfa neu ddysgu y maent wedi'u dewis.

"Yn y tymor hwy, mae angen i ni wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

"Ni all unrhyw un ragweld a fydd cyfnod arall fel hwn o gyfyngiadau symud yn y dyfodol neu pryd y gallai hyn ddigwydd, felly mae'n rhaid i ni ddysgu o'r profiadau hyn ac osgoi'r penderfyniadau dryslyd, digalon a welsom dros yr wythnosau diwethaf."