大象传媒

Sut mae Ysbyty Gwynedd wedi delio 芒 Covid-19?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ysbyty Gwynedd yn paratoi am ail don bosib o Covid-19

Mae Ysbyty Gwynedd fel nifer o ysbytai eraill wedi gorfod cyflwyno newidiadau mawr wrth ddelio 芒 Covid-19. Mae hyn wedi effeithio ar gleifion ond hefyd ar staff.

Aeth gohebydd arbennig 大象传媒 Cymru, Garry Owen i'r ysbyty i glywed gan y gweithwyr iechyd eu hunain sut maen nhw wedi ymdopi 芒'r sialens tra'n gweithio ynghanol un o'r heriau mwyaf mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i brofi erioed.

Does yna ddim awgrym o'r tu allan wrth i fi gyrraedd fod Ysbyty Gwynedd yn delio ag un o'r argyfyngau mwya' i daro'r gwasanaeth iechyd ac ysbytai ymhob man.

Ond wrth ddod at y fynedfa, mae'n stori wahanol ac ymdrech enfawr yr ysbyty i ddelio 芒 coronafeirws yn dod yn amlwg.

Wrth fynd i mewn trwy'r drws, mae gwirfoddolwr wrth law yn cynnig hylif hylendid ar gyfer eich dwylo ac ry' chi'n cael eich annog i wisgo mwgwd - os nad oes un gennych chi, mae'r ysbyty yn eu darparu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Carol Ann Jones eu bod wedi gweithio i sicrhau cleifion bod yr ysbyty yn ddiogel

Un o'r bobl cynta' i fi gwrdd 芒 nhw yw Carol Ann Jones, swyddog cymorth cyngor a chyswllt y claf ar y dderbynfa yn Ysbyty Gwynedd.

"Mae ymateb pobl wrth ddod i'r ysbyty wedi newid ers y dechrau. Ar y cychwyn roedd llai o bobl yn dod i mewn i'r ysbyty," meddai.

"Rwy'n teimlo bo' ni 'di rhoi sicrhad iddyn nhw bod ysbyty yn lle diogel ond i bobl ddilyn y cyfarwyddiadau wrth gwrs.

"Wrth i'r wythnosau fynd heibio ma' yna gymysgedd o deimladau - rhai yn ofnus ac eraill bach yn ffwrdd 芒 hi ac yn meddwl bod y pandemig drosodd, ac wrth gwrs 'dan ni yn gwybod bod o ddim.

"Rwy yn teimlo bo' fi a nghydweithwyr wedi gneud cyfraniad i ddisodli pryderon ac rwy'n falch i fod yn fy ngwaith bob dydd."

Yn amlach na heb, y dderbynfa yw'r lle cynta' i bobl ymweld ag e wrth gyrraedd yr ysbyty.

Un o'r pethau cyntaf i'n nharo i wrth fynd trwy'r drws oedd mai dyma hefyd yw'r fan lle mae pobl leol yn dangos eu diolch.

Mae yma luniau lliwgar gan blant ysgolion y cylch yn dangos eu gwerthfawrogiad o waith yr ysbyty yn ystod y pandemig, a'u negeseuon personol yn dweud cyfrolau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dwi erioed 'di gweld dim byd tebyg i hyn yn fy ngyrfa," meddai Mandy Jones

Mae gwerthfawrogiad pobl yr ardal yn gysur ac yn anogaeth i staff fel Mandy Jones, cyfarwyddwr nyrsio yr ysbyty.

Mae bod ar y wardiau yn ddyddiol yn ystod y don gyntaf wedi golygu straen a blinder i weithwyr y gwasanaeth iechyd a nawr mae angen paratoi ar gyfer ail don bosib.

Dywedodd Mandy: "Da' ni wedi dysgu lot o'r don gyntaf. 'Da ni wedi paratoi y staff o ran hyfforddi, ac wedi cael staff oedd falle yn gweithio ar wardiau neu glinig a'u hyfforddi i edrych ar 么l bobl bur wael yn intensive care i gael y driniaeth ma' nhw angen hefo Covid.

"Dwi yn confident ofnadwy bo' ni wedi paratoi cymaint ag y gallwn ni o ran y staff ac o ran 'neud yn si诺r bod gan bobl hyder yn ein gwaith ni.

"Dwi erioed 'di gweld dim byd tebyg i hyn yn fy ngyrfa. Dwi ddim yn meddwl fod neb 'di gweld dim byd fel hyn o ran yr emosiwn a'r paratoi 'da ni wedi bod drwodd... ma' positives 'di bod.

"Dwi erioed 'di gweld y gymuned yn tynnu at ei gilydd fel hyn, mae yna don fawr o emosiwn gan bobl a 'da ni yn ddiolchgar iawn amdano fo... mae o'n mynd yn bell iawn o ran y staff.

"A hefyd sut 'da ni fel bwrdd wedi cael offer mewn, newid pethau a chael Ysbyty Enfys... mae'r cyfan wedi bod yn rhyfeddol."

Ofn a phanig

Pan darodd y feirws gyntaf, roedd yn newydd, a phobl ddim wir yn ei ddeall. Roedd yna ofn ac roedd yna banig.

Bellach mae staff fel y rhai rwy' wedi bod yn siarad 芒 nhw yn Ysbyty Gwynedd wedi gorfod dysgu sgiliau newydd ac addasu wrth eu gwaith bob dydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhys Jones yn hyderus bod yr ysbyty yn barod os daw ail don o achosion

Un sy' wedi bod yn helpu gyda'r gwaith yma yw'r nyrs arbenigol Rhys Jones.

Pan fues i'n siarad 芒 fe mewn stafell hyfforddi arbennig, roedd yna s诺n hyderus yn ei lais wrth iddo drafod y posibilrwydd o ail don o'r feirws.

"Ry' ni 'di gneud tipyn o training ers i Covid ddod allan i ddechre ac ry' ni yn barod am ail don os daw," meddai.

"Fe fyddwn ni yn barod. Ry' ni wedi newid tipyn wrth hyfforddi nyrsys ar y wardiau, ry' ni wedi hyfforddi nyrsys gofal iechyd, er enghraifft, o ran cymryd gwaed, cardiac arrest, gwisgo PPE, rheoli heintiau ac yn y blaen.

"Mae'r staff wedi bod yn keen ofnadwy ac wedi dod i bob un training ry' ni wedi g'neud, ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn arbennig."

Newid byd

Ar hyd a lled Ysbyty Gwynedd mae nifer o staff eisoes wedi newid swyddi ac wedi addasu i r么l newydd er mwyn ateb y galw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Kewley wedi gwneud amryw o swyddi yn yr ysbyty ers dechrau'r pandemig

Yn eu plith mae Neil Kewley o'r adran glerigol. Mae e wedi symud swydd mewn ymateb i Covid-19.

Mae'n dweud ei fod e'n hapus i wneud hyn, ond yn cyfadde' bod y cyfan wedi bod yn dipyn o sioc iddo ar y cychwyn.

"Fel arfer rwy'n paratoi y cleifion i ddod mewn am driniaeth ac yn gweithio yn orthopedics," meddai.

"Ond ers dechrau'r pandemig rwy' wedi symud o gwmpas yr ysbyty. R诺an dwi'n ffonio cleifion i ddod i gael prawf Covid-19 cyn bo' nhw yn dod i mewn i gael triniaeth.

"Mae y rhan fwyaf o'r cleifion yn falch i gael y prawf ac yn eitha' relaxed.

"Pan 'naeth Covid daro gynta' roedd o'n dipyn o sioc, ond ro'n i'n hapus i ddysgu r么l newydd a dod i 'nabod nifer o gydweithwyr newydd. Ma' llawer ohonom ni wedi addasu i swyddi newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Sandra Robinson-Clark bod ymdrech enfawr wedi'i wneud i baratoi am Covid-19

Mae Covid-19 wedi dod 芒'i heriau i'r gwasanaeth iechyd ac mae pobl fel Sandra Robinson-Clark, matron yr uned gofal critigol, wedi bod yn ei chanol hi o'r cychwyn.

Roedd yna ychydig o "fear of the unknown", medde hi.

Roedd y t卯m wedi gweld be' oedd wedi bod yn digwydd ar draws y byd felly roedd ganddynt syniad o be' oedd o'u blaenau. Felly y peth pwysig oedd paratoi.

Dywedodd Sandra: "Roedd lot o waith paratoi wrth hyfforddi. Roedd hefyd angen paratoi o ran cael mwy o beiriannau fel ventilators ac offer i roi cyffuriau.

"Roedd angen paratoi y staff hefyd o ran y seicoleg a'r emosiwn. Roedd staff yn gweithio shifftiau hir.

"Os daw ail don, o leia' nawr ry' ni yn gwybod be' i ddisgwyl. Ry' ni wedi cynllunio o ran hyfforddiant ac o ran recriwtio ac offer.

"Rwy'n teimlo yn fwy hyderus os daw ail don, ry' ni i gyd, fel gweddill y byd, wedi dysgu mwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prosesau hylendid yr ysbyty ar waith

Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu gaeaf heriol gyda'r posibilrwydd o ail don o'r feirws.

Mae ysbytai fel Ysbyty Gwynedd wrthi'n paratoi ac yn buddsoddi amser, adnoddau ac arian i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, a'r feirws dan reolaeth.

Ond wrth i fi adael, roedd yr hyn ddywedodd un o'r nyrsys wrtha'i yn crynhoi teimlade y staff i gyd ac roedd y neges yn un i bob yr un ohonom ni.

"Byddwch yn wyliadwrus, byddwch yn ofalus. Cadwch yn ddiogel."

Hefyd o ddiddordeb