大象传媒

'Byddai'r cathod a'r c诺n wedi boddi petawn ni ddim yma'

  • Cyhoeddwyd
Margaret Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Margaret Evans yn poeni am ei hanifeiliaid anwes wrth i lefel y d诺r godi yn ei chartref

Mae menyw o Bowys wedi disgrifio gorfod achub ei hanifeiliaid anwes o lifogydd yn ei chartref wedi glaw trwm ddydd Llun.

Roedd y d诺r wedi llifo i lawr mynydd ger eiddo Margaret Evans yn Abercraf, gan chwalu tarmac ar l么n gerllaw.

O fewn munudau roedd wedi cyrraedd tu fewn i'r t欧 ble y bu'n byw am 34 o flynyddoedd.

Dywedodd y byddai ei chathod a'i ch诺n "wedi boddi yn y gegin petawn ni ddim wedi bod yna".

Cafodd cypyrddau, bwrdd a chadeiriau eu difrodi ac roedd ei pheiriant golchi'n arnofio yn y d诺r.

Ond y bygythiad i'r anifeiliaid anwes oedd ei phrif destun gofid.

"Ffodus"

"Roedd y cathod yn yr ystafell arall, roedden nhw'n nofio felly aethon ni 芒 nhw i fyny grisiau," meddai Mrs Evans, sydd hefyd 芒 dau gi chihuahua.

"Roedden ni'n ffodus ein bod ni yma."

Dywedodd nad yw erioed wedi gweld llifogydd tebyg yn y pentref o'r blaen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwaith clirio wedi'r llifogydd yn Abercraf ddydd Mawrth

Roedd yng nghanol gwneud te pan welodd "ychydig o dd诺r yn dod i lawr.

"Dywedais wrth fy merch i symud ei char, ac yna o fewn 10 munud roedd yn rhedeg i lawr y ffordd fel afon.

"Doeddwn i methu credu faint o dd诺r ddaeth i lawr mewn cyn lleied o amser."

Mae gweithwyr Cyngor Powys wedi treulio nos Lun a dydd Mawrth yn clirio a glanhau, symud rwbel a dadflocio'r ffrwd sy'n llifo lawr Ffordd Tanyrallt, ble mae Mrs Evans yn byw.

Fe wnaeth dwsinau o gartrefi ar draws rhannau o'r canolbarth ddioddef llifogydd wedi cawodydd trwm lleol ddydd Llun.

Ystradgynlais ac Abercraf gafodd eu taro waethaf ond cafodd criwiau Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw hefyd i bwmpio d诺r o adeiladau yn Aberteifi, yng Ngheredigion.