大象传媒

Coronafeirws: Pryder y gallai canolfannau hamdden gau

  • Cyhoeddwyd
Canolfan hamddenFfynhonnell y llun, Better
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n rhaid i gampfeydd a chanolfannau hamdden sicrhau bod modd cadw pellter

Mae iechyd pobl "dan fygythiad" oherwydd diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ganolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon yn ystod y pandemig, yn 么l un o sefydliadau hamdden mwyaf Cymru.

Mae Rhys Jones, pennaeth gwasanaeth hamdden Better yng Nghaerdydd, sydd wedi ailagor chwech o'i wyth canolfan yn ddiweddar, yn rhybuddio fod yr ymddiriedolaethau yn wynebu sefyllfa ariannol "dyngedfennol".

Dywedodd bod cau safleoedd yn bosibilrwydd gwirioneddol os na fydd rhagor o gefnogaeth gan y llywodraeth.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi galw am fwy o arian cyhoeddus i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod eisoes wedi rhoi arian ychanegol i'r sector ac i gynghorau yn sgil y pandemig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rhys Jones bod y cwmni wedi colli "ein holl incwm o 拢2.5m dros nos"

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y bydd 12 mis nesaf yn gyfnod gweddol dda i ganolfannau hamdden, ond nad oes unrhyw sicrwydd o hynny ar 么l i'r ymddiriedolaeth golli chwarter ei haelodau yn ystod y cyfnod clo.

"Pan ddywedodd y llywodraeth bod angen i ni gau ar 20 Mawrth, fe gollon ni ein holl incwm o 拢2.5m dros nos," meddai.

'Rhan o'r ateb i'r feirws'

Mae Mr Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol i'r sector, gan ychwanegu bod unrhyw ddiffyg gweithredu yn "bygwth iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl".

"Rydyn ni'n rhan o'r ateb i'r feirws hwn, mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus," meddai.

"Mae pawb yn gwybod fod bod yn egn茂ol yn gorfforol yn rhoi hwb i'ch system imiwnedd ac yn amddiffyniad da yn erbyn y feirws."

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn cydnabod yr angen i fod yn ddiogel ond dywedodd bod polisi Llywodraeth Cymru o ganiat谩u 30 o bobl yn unig mewn un ystafell, waeth be' fo'i faint, yn "dal pethau yn 么l ychydig".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwasanaethau fel pyllau nofio yn gallu bod yn ddrud i'w cynnal

Mae ymddiriedolaethau hamdden, sydd fel arfer yn sefydliadau dielw, yn rhedeg gwasanaethau gan gynnwys pyllau nofio cyhoeddus, canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon mewn 11 allan o 22 awdurdod lleol Cymru.

Disgrifiodd Alyson Smith o Gaerdydd ei chanolfan hamdden leol fel "ei chraig" yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ers i'w phartner farw'n sydyn.

Helpodd Ms Smith i greu'r rhaglen 'Aros yn Gryf' gyda staff Canolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni.

Mae'r cwrs yn cynnig dosbarthiadau ffitrwydd a gweithdai neu dechnegau ymlacio er mwyn helpu pobl i ddelio ag unrhyw broblemau neu bryderon maen nhw'n eu profi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgrifiodd Alyson Smith ei chanolfan hamdden leol fel "ei chraig" yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf

Gyda'r rhaglen wedi dod i stop oherwydd y cyfnod clo, dywedodd Ms Smith bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod rhai "ofnadwy".

"Roeddwn yn eithaf isel fy ysbryd tua diwedd y cyfnod clo oherwydd ar un adeg doeddwn i ddim wedi gweld bod dynol arall ers tri mis," meddai.

Dywedodd Ms Smith ei bod yn poeni am gyllid ac eisiau gweld buddsoddiad mewn poblogaeth iach.

"Ni allwn oll fforddio mynd i gampfeydd drud na gwario miloedd o bunnoedd ar offer ymarfer corff gartref," meddai.

"Mae hyn yn cynnig rhywbeth yng nghanol y gymuned sydd am bris rhesymol ac mae'n adnodd gwych."

Ffynhonnell y llun, Better
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 44% o ymddiriedolaethau hamdden yng Nghymru yn "wynebu dyfodol ansicr"

Dywedodd Hamdden Cymunedol Cymru, y corff sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau hamdden, fod "angen mawr am gefnogaeth ariannol y llywodraeth".

Ychwanegodd y corff ei fod wedi bod yn anodd i ymddiriedolaethau gael gafael ar gymorth arall gan Lywodraeth y DU fel cynlluniau benthyg neu gyllid grant.

Dangosodd yr ymchwil ddiweddaraf y byddai 44% o ymddiriedolaethau hamdden yng Nghymru yn "wynebu dyfodol ansicr" erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, gyda "15 o gyfleusterau hamdden mewn perygl o gau'n barhaol".

'Angen cyllid hir dymor'

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau hamdden, bod angen cyllid hir dymor.

Ychwanegodd bod canolfannau hamdden, boed rheiny'n cael eu rhedeg gan gynghorau neu ymddiriedolaethau, wedi cael ergyd fawr oherwydd y pandemig.

"Wrth iddyn nhw ailagor, dydyn nhw ddim am allu ailagor gyda'r un niferoedd ag o'r blaen," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi darparu cymorth i'r sector yn ystod y pandemig trwy gyllid gafodd ei ddarparu gan Chwaraeon Cymru.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi rhoi bron i hanner biliwn o bunnoedd i gynghorau, ac y gallai'r arian yma fynd tuag at gefnogi cyfleusterau hamdden.