大象传媒

Galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r helynt canlyniadau

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr Tudful
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr Tudful

Dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y deliodd Llywodraeth Cymru gyda chanlyniadau cymwysterau Safon Uwch a TGAU, medd Plaid Cymru.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Kirsty Williams, ymddiheuro "yn ddiamod" am y modd y deliwyd gyda chanlyniadau Safon Uwch yn y lle cyntaf.

Mae Ms Williams wedi awgrymu ers hynny y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i'r mater.

Ond yn 么l Plaid Cymru "dim ond ymchwiliad cyhoeddus fydd yn sicrhau tryloywder priodol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu myfyrwyr yn protestio yn erbyn y canlyniadau gwreiddiol ym Mae Caerdydd

Ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, fe gafodd 42% o raddau disgyblion Cymru eu hisraddio o'r graddau yr oedd athrawon wedi amcangyfrif fel rhan o'r broses safoni.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu derbyn graddau yr athrawon yn dilyn tro pedol tebyg yn Yr Alban ac yn Lloegr ychydig wedyn.

Fe gafodd graddau amcangyfrif yr athrawon hefyd eu defnyddio ar gyfer canlyniadau TGAU yr wythnos ganlynol.

Dywedodd Ms Williams wrth aelodau'r Senedd yr wythnos hon y byddai'n gwneud "datganiad pellach am adolygiad annibynnol o'r amgylchiadau'n ymwneud 芒 chanslo arholiadau eleni" yr wythnos nesaf.

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian yn galw am "ymchwiliad cyhoeddus llawn ar frys".

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri am 'ailadeiladu hyder y cyhoedd' fe ddylai'r Gweinidog Addysg gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn aeth o'i le, er mwyn paratoi'r ffordd am newid i'r dyfodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media

"Rhaid i'r Llywodraeth Cymru presennol a llywodraethau'r dyfodol fedru dysgu gwersi o'r modd gwallus y deliwyd gyda safoni cymwysterau a chanlyniadau arholiad yn ddiweddar.

"Rwy'n poeni na fydd 'adolygiad' y Gweinidog yn cyrraedd y lefel o graffu cyhoeddus sydd ei angen.

"Mae'r rhestr o gamgymeriadau wedi effeithio, ac yn dal i effeithio, ar filoedd o bobl ifanc Cymru.

"Rhaid peidio tan-amcangyfrif y lefel o bryder a achoswyd, a dim ond ymchwiliad cyhoeddus llawn wnaiff y tro.

"Byddai hynny'n dangos unrhyw fethiannau systemig sydd angen ei datrys mewn modd tryloyw a chadarn, gan ddangos bod y llywodraeth wedi ymrwymo o ddifri i ddysgu gwersi.

"Yn y cyfamser, dylai'r Gweinidog weithio gyda'r proffesiwn i sicrhau system deg ar gyfer 2021."