大象传媒

Covid-19: 'Dim digon o sylw i deuluoedd plant ag anghenion'

  • Cyhoeddwyd
DASHFfynhonnell y llun, DASH
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw DASH ddim wedi gallu cynnal gweithgareddau eleni yn sgil Covid-19

Dywed un fam o Geredigion sydd 芒 phlentyn awtistig nad oes digon o sylw wedi cael ei roi i deuluoedd tebyg iddyn nhw yn sgil Covid-19.

"Mae delio ag effeithiau Covid," meddai Del na sy'n dymuno rhoi ei chyfenw, "yn anodd iawn i deuluoedd plant sydd ag anghenion arbennig.

"Mae fy mab i'n awtistig ac mae peidio cael routine yn andros o anodd. Mae colli y rhan fwyaf o weithgareddau'r haf sy'n rhoi seibiant i deuluoedd yn ergyd arall."

Fel arfer mae mab Del yn mynd i ysgol arbennig ac yn ystod y gwyliau a phenwythnosau mae elusen DASH Ceredigion yn trefnu amrywiaeth o gynlluniau hamdden iddo fe ac eraill yn y sir sydd ag anghenion arbennig.

"Mae'r gweithgareddau yma yn hollol wych," ychwanega Del, "mae'n gyfle i fy mab gael gwneud pethau cyffrous gyda ffrindiau ac yn gyfle i ni gael break ond eleni mae popeth wedi newid ond diolch byth mae llacio'r cyfyngiadau yn golygu ei fod yn gallu mynd weithiau.

"Pan glywais i bod yr ysgol yn cau - roeddwn i mor bryderus. Mae peidio cael fframwaith ysgol, dim ffrindiau ac ansicrwydd yn anodd iawn i'r mab. Does dim digon o sylw wedi cael ei roi i deuluoedd fel ni i ddweud y gwir.

"Mae DASH yn werth y byd - mae'r gweithwyr yno wedi arfer delio gydag ymddygiad sydd yn gallu bod yn anodd ar adegau. Dydyn nhw ddim yn beirniadu ymddygiad fy mab ac mae'n cael gofal gan bobl sy'n deall ei anawsterau. Mae'r elusen yn ei alluogi i fod fel pobl ifanc eraill ac yn ei wneud yn hapus.

"Fel unrhyw berson ifanc dyw fy mab ddim am fod gyda rhieni o hyd - mae DASH yn sicrhau bod e'n cael cymdeithasu gyda rhai yr un oed ond eleni ry'n ni wedi colli hyn i gyd."

'Anodd peidio gweld ffrindiau'

Mae Zoe Glynne Jones yn arwain gweithgareddau DASH yn ystod mis Awst a dywed bod Covid wedi newid llawer iawn o bethau.

Ffynhonnell y llun, Zoe Glynne Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n anodd iawn i rieni - achos mae'r rhieni angen egwyl," medd Zoe Glynne Jones

"Yn anffodus," meddai, " dim ond plant ag anghenion dwys iawn sy'n gallu dod atom eleni. Oherwydd rheolau Covid dim ond pump ry'n yn gallu ei gymryd ar y tro ac felly mae nhw ond yn gallu dod atom ryw ddiwrnod yr wythnos.

"Dy'n nhw ddim bellach yn gallu mynd allan rhyw lawer fel cynt - yn y gorffennol 'dan ni wedi bod yn cynnal tripiau llawn cyffro i lefydd fel Dinbych-y-Pysgod neu mae nhw'n mynd i fowlio deg ond dim 'leni.

"Mae'n anodd iawn i rieni - achos mae'r rhieni angen egwyl.

"Dyw llawer o'r rhai sy'n dod atom ddim yn deall pam nad ydynt yn cael gweld eu ffrindiau rhagor, pam nad ydynt yn cael chwarae rhagor a pham bo nhw'n gorfod bod ar wah芒n - mae'n anodd rili a dwim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli.

Ffynhonnell y llun, DASH Ceredigion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid oedd i'r plant gadw pellter eleni,' medd Zoe Glynne Jones, 'ac mae hynny'n anodd weithiau'

"Dyw'r plant 'ma ddim yn deall chwaith pam bod angen defnyddio hand sanitiser drwy'r amser - petha 'dan ni'n cymryd yn ganiataol.

"Mae'n gyfnod rhwystredig iawn - mae elusen fel DASH mor bwysig. Dyw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ddim yn cael y cyfleon mae plant eraill yn eu gael.

"Ein gwaith ni yw dangos i'r bobl yma eu bod yn cael eu caru'n fawr a bod yna gyfleoedd iddyn nhw. Rhaid peidio rhoi pwysau arnyn nhw i wneud rhywbeth mewn ffordd arbennig - rhaid iddyn nhw fod yn nhw eu hunain.

"Eleni yn anffodus mae nifer wedi methu cael y cyfle yma."

Bydd modd clywed am ffydd Zoe a'r hyn sy'n ei chymell yn rhifyn dydd Sul o Bwrw Golwg am 12.30.