大象传媒

Ystyried deddfu i reoli nifer yr ail gartrefi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Josh
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Josh Sainty, 20, yn dweud fod hi'n amhosib iddo brynu t欧 yn Llansteffan

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y gallai Llywodraeth Cymru ystyried deddfu er mwyn rheoli'r nifer o ail gartrefi yng Nghymru.

Daw sylwadau Mark Drakeford yn sgil pryder cynyddol am y farchnad dai yng nghyfnod Covid-19.

Mae ystadegau cwmni Rightmove yn dangos cynnydd blynyddol o 5.8% ym mhrisiau tai Cymru ar gyfartaledd, gyda chynnydd o 2.9% yn ystod y misoedd diwethaf yn unig.

Mae arwerthwyr tai wedi cael eu cyfnod prysuraf ers blynyddoedd, gydag adroddiadau am bobl yn chwilio am dai yng nghefn gwlad ac ar hyd glannau gorllewin Cymru.

Tai 'ddim o fewn cyrraedd'

Ym mhentref Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin, mae Josh Sainty, 20 oed, yn dweud fod hi'n amhosib iddo brynu t欧 yn lleol, er ei fod e wedi ei fagu yn y pentref.

"Rydw i eisiau prynu t欧 fan hyn ond i bobl ifanc fel fi mae'n galed achos mae lot o holidaymakers, ac mae hynny yn iawn, ond mae'n rhaid i bobl ifanc o'r pentref i gael priority," meddai.

"Fi'n teimlo yn eitha' upset, achos mae pobl eisiau byw fan hyn."

Yn 么l cynghorydd sir Llansteffan, Carys Jones, mae tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol.

"Mae pedwar neu bump o dai ar werth yn y pentre o hyd," meddai. "Mae un newydd werthu o fewn dau ddiwrnod am hanner miliwn, t欧 tair ystafell wely. Mae'r t欧 rhataf yn 拢350,000. Dyw nhw ddim o fewn cyrraedd fy nghenhedlaeth i."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynghorydd Carys Jones wedi galw am reolau ar ail gartrefi

Ychwanegodd: "Mae'n bosib rhoi cyfamodau ar nifer o dai mewn un plwyf i'w gwarchod nhw, mae'n bosib dod 芒 mesurau sydd yn rhoi cost ychwanegol, trwy roi cyfraniad i dai fforddiadwy neu trwy'r system drethi, neu mae'n rhaid eu rheoli drwy'r gyfundrefn gynllunio."

Dyw Dylan Davies, cyfarwyddwr gydag arwerthwyr tai Morgan & Davies yn Aberaeron, ddim yn derbyn taw pobl sydd yn chwilio am ail gartrefi sydd yn gyfrifol am y prysurdeb diweddar.

"'Sdim dowt bod hi lawer mwy prysur nag oedd hi. Ni wedi gwerthu tair gwaith mis hyn i gymharu 芒'r un adeg y llynedd, ond fe gollon ni dri mis," meddai.

"Dyw pobl ddim wedi gallu prynu ac maen nhw yn gallu prynu nawr. Roeddwn i yn siarad yn y swyddfa ein bod ni wedi gwerthu llawn gymaint i bobl lleol 芒 phobl o bant.

"Mae gwerthoedd bywyd pobl wedi altro. Mae pobl eisiau multi-generational living, home with an income ac mae pobl eisiau awyr iach."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Dylan Davies eu bod wedi gwerthu "llawn gymaint i bobl lleol 芒 phobl o bant"

Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn galw am reolau newydd ar ail gartrefi, ac yn honni nad yw 60% o bobl y sir yn medru fforddio t欧 yn lleol.

Maen nhw'n gandryll bod tai sydd ar werth yn y sir yn cael eu marchnata fel ail gartrefi posib neu fel tai gwyliau.

"Mae'n anfoesol ein bod ni yn s么n am bobl sydd eisiau ail dai pan mae llwythi o bobl yng Ngwynedd methu fforddio un t欧," meddai'r cynghorydd Craig ab Iago sydd yn gyfrifol am y portffolio Tai ar gabinet Cyngor Gwynedd.

'Os bydd rhaid deddfu, ni'n fodlon gwneud'

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "ymwybodol o her ail gartrefi a thai gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau. Mae'r llywodraeth yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac ry'n ni yn gobeithio darparu 20,0000 erbyn diwedd cyfnod y llywodraeth bresennol."

Wrth ymateb i'r pwyse am reolau newydd ar gyfer ail gartrefi, mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y llywodraeth wedi "dechrau gwaith ar bod yn deg i bobl leol a bod yn deg gyda phobl sydd yn dod i fewn, er mwyn cael y balans yn iawn".

Dywedodd y gallai'r llywodraeth ddeddfu er mwyn mynd i'r afael 芒 phroblemau ail gartrefi: "Os bydd rhaid i ni ddeddfu, ni'n fodlon gwneud e.

"Mae'r rheoliadau yn y ddeddf sydd gyda ni nawr. Os bydd rhaid ail-ddeddfu neu ailwampio y rheoliadau, ni'n fodlon gwneud hynny."