大象传媒

Pobl yn gorfod gadael eu tai oherwydd llifogydd dros nos

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llifogydd a thirlithriadau wrth i Storm Francis daro

Mae gwyntoedd cryfion o hyd at 75mya a llifogydd difrifol wedi gadael cannoedd o dai heb drydan wrth i Storm Francis achosi trafferthion ledled y wlad.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd, yn 'Chwarel Bethesda' yr oedd y mwyaf o law yn y Deyrnas Unedig rhwng hanner nos a 06:00 fore Mercher.

Roedd Ysbyty Ifan yn Sir Conwy, Pen y Coed yn Sir Ddinbych a Phantygwyn yng Ngheredigion ymhlith yr ardaloedd a welodd y mwyaf o law yn y DU hefyd.

Dywed Heddlu'r Gogledd fod Afon Ogwen wedi gorlifo a bod rhaid i ddwsinau o bobl adael eu tai yn ardaloedd Bethesda a Beddgelert.

Ffynhonnell y llun, Pete Sommers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr olygfa ym Meddgelert wrth i afonydd Glaslyn a Cholwyn orlifo

Roedd yr heddlu, Timoedd Achub Mynydd a Gwasanaeth T芒n ac Achub y Gogledd yn rhan o'r ymdrechion dros nos.

Bu'n rhaid i tua 40 o bobl adael chalets a chartrefi ym Methesda, meddai'r gwasanaeth t芒n, cyn cael eu cymryd i'r ganolfan hamdden leol.

Cafodd pobl o bum t欧 eu hachub gyda chwch ym Meddgelert hefyd.

Bydd archwiliad yn digwydd bore Mercher i weld os ydy hi'n ddiogel i bobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y dinistr yn ardal Bethesda fore Mercher wedi Storm Francis

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod Afon Glaslyn ym Meddgelert ar ei lefel uchaf erioed ddydd Mawrth - tua 2.4m, gyda'r record uchaf cyn hynny yn 2.29m yn 2004.

'Dim byd tebyg mewn 40 mlynedd'

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd Alun Hughes o westy Tan yr Onnen ym Meddgelert fod y sefyllfa'n "dorcalonnus".

"Mae'r difrod drwy'r gwesty o'r ffrynt i'r cefn [ac mae] golwg ofnadwy ar Feddgelert," meddai.

"Rodd yr afon mor uchel fel ei bod hi wedi dod dros y waliau atal llifogydd y maen nhw wedi eu hadeiladu bob ochr i'r afon. Nid dod o'r afon yn unig oedd y rhan fwyaf o dd诺r chwaith ond lawr y mynydd heibio i'r Royal Goat a lawr fel afon drwy'r pentref.

"Dwi yma ers 40 mlynedd, mi ges i garpedi newydd n么l yn yr 80au ar 么l rhywbeth tebyg, ond weles i erioed rhywbeth fel hyn a dwi ddim yn credu bod neb wedi gweld yr un peth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llif Afon Ogwen wedi gostegu rhywfaint erbyn bore Mercher

Ychwanegodd: "Y broblem ydy bod yr Afon Colwyn yn medru codi yn sydyn ac yna'r Glaslyn, a'r llynnoedd y tu 么l i ni - mae hi wedi bwrw cymaint roedd yr afon mor uchel fel bod dim lle i'r d诺r fynd bron a bod.

"Fe ddigwyddodd y cyfan mor sydyn, un funud roedden ni ar fin gorffen gweini bwyd ac yna roedd yna floedd bod d诺r yn dod mewn drwy'r drysau. Felly yr oedd hi drwy'r pentref, ar ddau gaffi wedi ei chael hi, hyn i gyd ar 么l Covid-19, mae hi yn dorcalonnus yma. Mi fydd hi'n fisoedd arall cyn ailagor.

"Fe gafodd Stryd Gwynant ei 'evacuatio' i gyd, hon ydy'r stryd sy'n mynd am Fetws y Coed."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Dywed Traffig Cymru bod ffordd yr A5 yn parhau i fod ar gau rhwng Bethesda a Betws y Coed yn dilyn llifogydd a thirlithriad.

Yn Abergwyngregyn yng Ngwynedd, bu'n rhaid i ymladdwyr t芒n helpu chwech o bobl ar 么l i'r llifogydd daro adeilad yno.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llifogydd wedi achosi oedi difrifol ar yr A55 yn Abergwyngregyn ddydd Mawrth

Yn y brifddinas, bu'n rhaid gohirio'r chwilio yn Afon Taf dros nos yn dilyn adroddiadau fod rhywun yn y d诺r ar 么l i gan诺 droi drosodd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Ffynnon Taf - i'r gogledd o Gaerdydd - am 09:48 fore Mawrth.

Mewn digwyddiad ar wah芒n, roedd y gwasanaethau brys hefyd yn cynorthwyo yn dilyn adroddiadau fod unigolyn wedi mynd i mewn i'r afon ger Stadiwm Principality ychydig cyn 08:40.

Mae disgwyl i'r chwilio ailddechrau fore Mercher.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Coeden wedi disgyn yn ardal Pontcanna, Caerdydd nos Fawrth

Nos Fawrth fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi gofyn i bobl yn ardal Stryd y Castell yng Nghaerdydd i adael yr ardal am fod sawl adeilad yno wedi eu difrodi.