Pobl yn gorfod gadael eu tai oherwydd llifogydd dros nos

Disgrifiad o'r fideo, Llifogydd a thirlithriadau wrth i Storm Francis daro

Mae gwyntoedd cryfion o hyd at 75mya a llifogydd difrifol wedi gadael cannoedd o dai heb drydan wrth i Storm Francis achosi trafferthion ledled y wlad.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, yn 'Chwarel Bethesda' yr oedd y mwyaf o law yn y Deyrnas Unedig rhwng hanner nos a 06:00 fore Mercher.

Roedd Ysbyty Ifan yn Sir Conwy, Pen y Coed yn Sir Ddinbych a Phantygwyn yng Ngheredigion ymhlith yr ardaloedd a welodd y mwyaf o law yn y DU hefyd.

Dywed Heddlu'r Gogledd fod Afon Ogwen wedi gorlifo a bod rhaid i ddwsinau o bobl adael eu tai yn ardaloedd Bethesda a Beddgelert.

Ffynhonnell y llun, Pete Sommers

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa ym Meddgelert wrth i afonydd Glaslyn a Cholwyn orlifo

Roedd yr heddlu, Timoedd Achub Mynydd a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn rhan o'r ymdrechion dros nos.

Bu'n rhaid i tua 40 o bobl adael chalets a chartrefi ym Methesda, meddai'r gwasanaeth tân, cyn cael eu cymryd i'r ganolfan hamdden leol.

Cafodd pobl o bum tÅ· eu hachub gyda chwch ym Meddgelert hefyd.

Bydd archwiliad yn digwydd bore Mercher i weld os ydy hi'n ddiogel i bobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Disgrifiad o'r llun, Y dinistr yn ardal Bethesda fore Mercher wedi Storm Francis

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod Afon Glaslyn ym Meddgelert ar ei lefel uchaf erioed ddydd Mawrth - tua 2.4m, gyda'r record uchaf cyn hynny yn 2.29m yn 2004.

'Dim byd tebyg mewn 40 mlynedd'

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd Alun Hughes o westy Tan yr Onnen ym Meddgelert fod y sefyllfa'n "dorcalonnus".

"Mae'r difrod drwy'r gwesty o'r ffrynt i'r cefn [ac mae] golwg ofnadwy ar Feddgelert," meddai.

"Rodd yr afon mor uchel fel ei bod hi wedi dod dros y waliau atal llifogydd y maen nhw wedi eu hadeiladu bob ochr i'r afon. Nid dod o'r afon yn unig oedd y rhan fwyaf o ddŵr chwaith ond lawr y mynydd heibio i'r Royal Goat a lawr fel afon drwy'r pentref.

"Dwi yma ers 40 mlynedd, mi ges i garpedi newydd nôl yn yr 80au ar ôl rhywbeth tebyg, ond weles i erioed rhywbeth fel hyn a dwi ddim yn credu bod neb wedi gweld yr un peth."

Disgrifiad o'r llun, Roedd llif Afon Ogwen wedi gostegu rhywfaint erbyn bore Mercher

Ychwanegodd: "Y broblem ydy bod yr Afon Colwyn yn medru codi yn sydyn ac yna'r Glaslyn, a'r llynnoedd y tu ôl i ni - mae hi wedi bwrw cymaint roedd yr afon mor uchel fel bod dim lle i'r dŵr fynd bron a bod.

"Fe ddigwyddodd y cyfan mor sydyn, un funud roedden ni ar fin gorffen gweini bwyd ac yna roedd yna floedd bod dŵr yn dod mewn drwy'r drysau. Felly yr oedd hi drwy'r pentref, ar ddau gaffi wedi ei chael hi, hyn i gyd ar ôl Covid-19, mae hi yn dorcalonnus yma. Mi fydd hi'n fisoedd arall cyn ailagor.

"Fe gafodd Stryd Gwynant ei 'evacuatio' i gyd, hon ydy'r stryd sy'n mynd am Fetws y Coed."

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dywed Traffig Cymru bod ffordd yr A5 yn parhau i fod ar gau rhwng Bethesda a Betws y Coed yn dilyn llifogydd a thirlithriad.

Yn Abergwyngregyn yng Ngwynedd, bu'n rhaid i ymladdwyr tân helpu chwech o bobl ar ôl i'r llifogydd daro adeilad yno.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd llifogydd wedi achosi oedi difrifol ar yr A55 yn Abergwyngregyn ddydd Mawrth

Yn y brifddinas, bu'n rhaid gohirio'r chwilio yn Afon Taf dros nos yn dilyn adroddiadau fod rhywun yn y dŵr ar ôl i ganŵ droi drosodd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Ffynnon Taf - i'r gogledd o Gaerdydd - am 09:48 fore Mawrth.

Mewn digwyddiad ar wahân, roedd y gwasanaethau brys hefyd yn cynorthwyo yn dilyn adroddiadau fod unigolyn wedi mynd i mewn i'r afon ger Stadiwm Principality ychydig cyn 08:40.

Mae disgwyl i'r chwilio ailddechrau fore Mercher.

Disgrifiad o'r llun, Coeden wedi disgyn yn ardal Pontcanna, Caerdydd nos Fawrth

Nos Fawrth fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi gofyn i bobl yn ardal Stryd y Castell yng Nghaerdydd i adael yr ardal am fod sawl adeilad yno wedi eu difrodi.