Galw am ymestyn y cynllun 'Bwyta Allan i Helpu Allan'
- Cyhoeddwyd
Mae cwmn茂au o Gymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun 'Bwyta Allan i Helpu Allan' am fis arall.
Yn 么l Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fe fyddai ymestyn y fenter i helpu miloedd o fusnesau bwyd a diod bach ledled y wlad ymhellach.
Ers 3 Awst mae'r llywodraeth yn talu am 50% o bryd bwyd sy'n cael ei fwyta mewn caffi, bwyty neu dafarn ar ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Mercher.
Mae'r gostyngiad, sydd wedi rhedeg trwy fis Awst, gydag uchafswm o 拢10 y person.
Mae'r llywodraeth wedi neilltuo 拢500m i ariannu'r polisi.
Dywedodd Cadeirydd Polisi FSB Cymru, Ben Francis: "Mae'r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth gael pobl yn 么l i strydoedd mawr a chanol ein trefi yng Nghymru.
"Bellach mae angen i ni ei weld yn cael ei ymestyn er mwyn i fusnesau elwa o'r gefnogaeth hanfodol wrth i ni ddechrau ar gyfnod anodd yn economaidd.
"Dim ond ailagor y mae cwmn茂au lletygarwch Cymru, ar 么l cael y golau gwyrdd i wneud hynny ddechrau mis Awst.
"Nid oedd llawer yn gallu agor ar unwaith, gan olygu na allent fanteisio ar y cynllun am y mis llawn, ac felly byddai ymestyn y cynllun yn ystod mis Medi yn helpu'r busnesau hynny i elwa'n wirioneddol o Bwyta Allan i Helpu Allan."
Ymateb 'aruthrol'
Drwy gydol y cyfnod clo bu'n rhaid i fwyty a siop Medina yn Aberystwyth addasu er mwyn cludo bwydydd a pharatoi prydau o flaen llaw i bobl eu casglu. Ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ar fwyta o dan do ar 3 Awst mae'r perchennog, Medina Rees, yn dweud bod y cyfnod wedi bod yn aruthrol
"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, ac mae hi wedi bod yn braf iawn gweld pobl eto, ond ry' ni wedi bod mor brysur yn ceisio ateb y galw.
"Mae pawb yn keen iawn i gael y cynnig yma, ac ry' ni wedi gorfod troi tua 200 o bobl i ffwrdd bob dydd achos allwn ni ddim ffitio pawb mewn.
Dywedodd Ms Rees bod y drefn o sicrhau ad-daliad gan Lywodraeth Prydain wedi bod yn hawdd iawn.
"Mae'r drefn gwaith papur wedi bod yn gr锚t, yn system rili syml," meddai. "Ro'n ni'n gwneud y cais am arian a wedyn o'dd yr arian yn dod mewn yr wythnos wedyn, felly o'dd e'n help enfawr i'r cash flow.
"Wrth gwrs, optional yw'r cynllun yma, ond bydden ni wrth gwrs yn cefnogi ei ymestyn e, er mwyn i ni i gyd cael yr opsiwn i fod yn rhan ohono fe am fwy o amser.
"Er bo ni wedi bod yn hurt o brysur alla i weld bod e'n dda iawn i rhai pobl, a bydden i'n falch o gael yr opsiwn y tu allan i'r cyfnod gwylie. Falle bydde pethe yn gallu bod ychydig yn fwy call wedyn."
Rhinweddau dros barhau
Yn 么l Ben Francis o FSB Cymru mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn edrych at y dyfodol.
"Wrth i ni ddechrau ym mis Medi gydag ysgolion yn ailagor a mwy o bobl yn mynd yn 么l i'w gweithleoedd mae yna rinweddau cryf o hyd i barhau 芒 hyn am fis arall," meddai.
"Mae'r rhain yn parhau i fod yn gyfnodau anodd i'r gymuned busnesau bach, gyda straen yr argyfwng hwn yn parhau i gael eu teimlo.
"Dyna pam rydym yn annog pawb i ddangos cefnogaeth i'w hoff gwmn茂au bach ar bob cyfle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2020