Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carwyn Jones yn 'agos at ildio swydd y prif weinidog'
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi datgelu iddo ddod yn agos at adael y swydd oherwydd y straen ar ei fywyd teuluol.
Dywedodd ei fod wedi meddwl am gerdded i ffwrdd o'r r么l pan oedd ei ferch yn mynd trwy "amser anodd".
Dywedodd Mr Jones fod y ffaith iddo orfod bod oddi cartref gymaint wedi peri iddo gwestiynu a oedd "angen tad sydd gartref yn fwy ar y plant".
Wrth drafod ei lyfr newydd sydd allan yr wythnos hon, 'Not Just Politics', mae hefyd yn rhybuddio y gallai Cymru ddod yn annibynnol yn "ddamweiniol".
Effaith ar y teulu
Dywedodd Mr Jones, a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018, fod un achlysur yn sefyll allan "pan oedd fy merch yn mynd trwy gyfnod anodd, fel y mae plant mabwysiedig yn ei wneud weithiau".
"Roedd hi'n cael pethau'n anodd iawn," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
"Bryd hynny, dechreuais feddwl a oes angen tad arni sydd gartref yn fwy aml?
"Ond fe ddaeth hi drwyddo, mae hi'n blentyn gwych."
Soniodd Mr Jones hefyd am ddiagnosis ei wraig Lisa 芒 lewcemia yn y 1990au, a sut na wnaethant ganiat谩u i'r salwch fynd yn groes i'w cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
"Yn ffodus iawn, fe wellodd Lisa. Cafodd drawsblaniad m锚r esgyrn gan ei brawd, o fewn blwyddyn roedd hi bron yn 么l i normal ac yn gryf, ac mae hi'n berson dewr iawn."
"Roedd Lisa yn un o'r rhai ffodus, a 25 mlynedd yn ddiweddarach nid yw'r salwch wedi dychwelyd.
"Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig pan fyddwch chi'n cael canser eich bod chi'n parhau. Eich bod chi ddim yn gadael iddo fynd yn ffordd eich bywyd a pharhau 芒'ch cynlluniau."
'Cyfnod tywyllaf'
Cyfaddefodd Carwyn Jones fod marwolaeth y gweinidog o Lywodraeth Cymru, Carl Sargeant, wedi "gadael marc" arno.
Cafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw yn ei gartref ddyddiau ar 么l i'r Carwyn Jones ei ddiswyddo ym mis Tachwedd 2017, ar 么l cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.
Bum mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd Mr Jones y byddai'n camu i lawr fel prif weinidog, gan ddweud ei fod wedi bod trwy'r "cyfnod tywyllaf".
Yn ei lyfr newydd, mae'n datgelu iddo ddioddef o iselder clinigol yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant, a'i fod wedi derbyn cwnsela ac wedi bod ar gyffuriau gwrthiselder.
Ond nid yw Mr Jones yn credu y dylid bod wedi gwneud hyn yn gyhoeddus ar y pryd: "Mae'n anodd iawn i siarad amdano.
"Dwi ddim yn credu ei bod yn briodol pan oedd teulu yn galaru, i ddechrau siarad amdanoch chi'ch hun a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu.
"Rwy'n credu y byddai pobl wedi gweld hynny fel dipyn o distraction method ar yr adeg."
"Byddwn i erioed wedi teimlo'n gyffyrddus i siarad am yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo pan roedd teulu wedi mynd trwyddo rhywbeth llawer gwaeth."
'Annibynniaeth drwy ddamwain'
Thema arall y mae Carwyn Jones yn mynd i'r afael 芒 hi yn y llyfr yw dyfodol y Deyrnas Unedig.
"Dwi erioed wedi derbyn ei fod yn ddewis rhwng y status quo ac annibyniaeth," meddai.
"Rwy'n credu bod yna ffordd arall, math o ffederasiwn, lle mae gennych chi bedair gwlad gyfartal sy'n dewis ymuno 芒'r ffederasiwn hwnnw."
Cred Mr Jones fod awydd mawr am newid cyfansoddiadol yn y Blaid Lafur.
"Rwy'n credu bod Keir Starmer yn ei gael e. Nid wyf yn dweud y bydd ei farn yn union yr un fath 芒 fy un i o ran sofraniaeth seneddol, gall fod yn fodel gwahanol."
Mae Mr Jones hefyd yn rhybuddio y gallai Cymru ddod yn annibynnol yn "ddamweiniol".
"Rhaid i chi gofio, os gall Yr Alban adael y DU, y gall Cymru adael y DU, felly hefyd Lloegr.
"Ac rydych chi'n gweld Yr Alban yn gadael, mae'n ddigon posib y byddai hynny'n dechrau creu ymgyrch dros genedlaetholdeb Seisnig, annibyniaeth i Loegr."