大象传媒

Blwyddyn ysgol wahanol iawn i'r arfer yn dechrau

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Ynys y Barri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd grwpiau gwahanol o ddisgyblion yn dechrau'r ysgol ar amseroedd gwahanol yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri

Mae blwyddyn ysgol newydd yn dechrau yng Nghymru yr wythnos hon, ond un gwahanol i unrhyw un a brofwyd o'r blaen.

Mae'r "normal newydd" yn nosbarthiadau Cymru yn cynnwys gweithio mewn swigod a chael cyn lleied o gyswllt 芒 phosib gyda disgyblion sydd ddim yn rhan o'u gr诺p.

Ond mae mwyafrif y rhieni a'r athrawon yn croesawu'r cyfle i blant ddychwelyd i'r dosbarth yn dilyn chwe mis o amhariad oherwydd coronafeirws.

Mae penaethiaid wedi dweud mai'r flaenoriaeth ar ddechrau'r tymor ydy sicrhau bod disgyblion a rhieni yn hapus, cyn dechrau dal i fyny gyda'r addysg a gollwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd plant yn cael cyn lleied o gyswllt 芒 phosib gyda disgyblion sydd ddim yn rhan o'u gr诺p

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsy Williams wedi dweud bod dychwelyd i'r ysgol yn "allweddol" i ddatblygiad ac iechyd plant, a bod "popeth posib" wedi'i wneud i leihau'r peryglon.

Mae'r mesurau hynny'n cynnwys mwy o lanhau, llai o symud o amgylch yr ysgol a lleihau'r cyswllt rhwng grwpiau gwahanol.

Ychwanegodd Ms Williams bod Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda chynghorau ar yr "oblygiadau o ran cost" ar gyfer rheiny sy'n penderfynu gwisgo mygydau, a bod y llywodraeth yn "barod i wneud cyfraniad".

'Rhieni yn awyddus iddyn nhw ddod 'n么l'

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Matt Gilbert bod yr ychydig wythnosau cyn diwedd y tymor, ble bu disgyblion yn dychwelyd mewn grwpiau bychan, wedi bod yn gyfle i brofi systemau'r ysgol.

Bydd grwpiau gwahanol o ddisgyblion yn dechrau'r ysgol ar amseroedd gwahanol, a bydd pedair mynedfa wahanol yn cael eu defnyddio er mwyn lleihau'r cyswllt rhwng gwahanol swigod.

"Mae'r plant yn gyffrous iawn ac mae rhieni yn awyddus iddyn nhw ddod 'n么l," meddai Mr Gilbert.

"Y peth pwysig o'n safbwynt ni yw cael cynllun mewn lle - yn gyntaf i gefnogi lles y plant fel nad ydyn nhw'n bryderus, yna chanolbwyntio ar rifedd a llythrennedd fel eu bod ar y lefel iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lles a diogelwch plant fydd y flaenoriaeth i athrawon ar ddechrau'r tymor

Ychwanegodd pennaeth Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd eu bod angen sicrhau bod addysg yn "hwyl a diogel", a'i fod yn deall y bydd pryder o bosib ymysg disgyblion a staff.

"Ry'n ni'n ceisio gwneud pethau mor normal 芒 phosib," meddai.

"Mae plant yn treulio rhyw chwe awr y dydd yn yr ysgol felly ry'n ni'n ceisio ei wneud fel yr oedd cyn mis Mawrth - ry'n ni eisiau iddyn nhw deimlo'n gartrefol, cyfforddus a chael rwt卯n."