大象传媒

Dadgomisiynu ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ysbyty Calon y Ddraig ei greu rhag ofn y byddai'r GIG yn methu dygymod 芒'r pandemig coronafeirws

Mae gwaith wedi dechrau i droi Stadiwm Principality yn 么l i'w bwrpas gwreiddiol, ar 么l cael ei drawsnewid yn ysbyty dros dro.

Ym mis Mawrth cyhoeddwyd y byddai'r maes rygbi cenedlaethol yn cael ei droi'n ysbyty - Ysbyty Calon y Ddraig - fel rhan o'r frwydr yn erbyn coronafeirws.

Ni fu'n rhaid trin llawer o gleifion yno wedi'r cwbl, ac yn awr gydag achosion yn lleihau, mae'r gwaith o ddadgomisiynu'r ysbyty wedi dechrau.

Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, ei fod yn hyderus y byddai gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn erbyn Lloegr ac Iwerddon, yn gallu cael eu chwarae yno.

Bwrw 'mlaen

"Dwi'n fwy hyderus nag oeddwn i gwpl o wythnosau'n 么l", meddai.

"Rydym yn edrych ar ddadgomisiynu'r stadiwm o'r hydref ymlaen. Mae rhannau ohono, ar lefel 4 a 5 eisoes wedi cael eu dadgomisiynu, ac rydym wedi siarad 芒'r contractwyr yngl欧n ag adfer y bariau a'r suites.

"Mae'r unig welyau sydd ar 么l yn y stadiwm yn y bowlen a'r cae, a dyna'r rhan olaf i gael ei ddadgomisiynu tuag at ddiwedd Hydref a dechrau Tachwedd.

"Mae hyn yn golygu y gallwn fwrw mlaen i adfer y seddi sydd wedi cael eu tynnu mas, a'r ffactor hollbwysig, sef adfer y cae chwarae."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Davies yn hyderus y bydd y maes yn barod ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021

Ni fydd yr undeb yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau yn y stadiwm eleni.

Mae hynny'n golygu fod Cymru'n chwilio am gartref dros dro i chwarae'r g锚m Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ar 31 Hydref - gornest a gafodd ei gohirio ym mis Mawrth - a hefyd ddwy o'r gemau mewn cystadleuaeth wyth gwlad newydd gaiff ei chynnal ym mis Tachwedd, yn erbyn Lloegr a Ffiji.

Dywed Gareth Davies fod pob stadiwm yn Llundain, yn cynnwys Twickenham a meysydd timau p锚l-droed yn Uwch Gynghrair Lloegr megis West Ham a Tottenham, i gyd dan ystyriaeth os bydd cefnogwyr yn cael dod i'r gemau.

Mae Undeb Rygbi Lloegr yn gobeithio y bydd modd caniatau 20,000 o gefnogwyr ar gyfer g锚m Lloegr a'r Barbariaid ar 25 Hydref, ond nid yw hynny wedi ei gadarnhau eto.