'Treuliwch amser ar chwaraeon yn lle pwyso plant'
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Elinor Barker yn credu y byddai'n well treulio amser yn helpu plant i ddarganfod camp sydd o ddiddordeb iddyn nhw yn hytrach na'u pwyso mewn ysgolion.
Daeth sylwadau'r enillydd medal aur wedi i Tam Fry o'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol awgrymu y dylid gwirio pwysau plant fis yma er mwyn sylwi ar broblemau gordewdra yn gynnar.
Dywedodd Mr Fry ac arbenigwyr eraill eu bod am weld plant yn cael eu pwyso ym mis Medi, ac eto yn y gwanwyn.
Ond dywedodd Barker ar Twitter: "Rwyf wedi gweld athletwyr proffesiynol yn llwgu eu hunain y diwrnod cyn iddyn nhw gael eu pwyso cyn cystadleuaeth neu ddihydradu'u hunain yn llwyr."
'Nid codi cywilydd yw'r ffordd ymlaen'
Yn ddiweddarach dywedodd wrth y 大象传媒: "Dydw i ddim yn credu mai codi cywilydd ar bobl yw'r ffordd ymlaen o gwbl.
"Rwy'n credu y gallai'r amser yna gael ei ddefnyddio i ddarganfod camp y mae'r plant yn mwynhau.
"Er mwyn i gamp ddod yn rhan o ffordd iach o fyw, rhaid i chi ddarganfod rhywbeth ry'ch chi'n caru ei wneud.
"Ac rwy'n credu bod llawer o blant ddim yn mwynhau gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol gan fod angen tipyn o gyd-drefnu llygaid a dwylo a chystadleuaeth mewn campau fel rygbi, p锚l-rwyd, p锚l-droed - y math o gampau welwch chi yn yr ysgol."
Dywedodd y gallai pobl ifanc sydd ddim yn mwynhau'r campau yna ddysgu am rhai eraill.
"Mae cannoedd o gampau y gallwch chi fod yn rhan ohonyn nhw," ychwanegodd.
"Mae angen i chwaraeon fod yn ffordd o fyw, oherwydd dyw deiets ddim yn gweithio.
"Pan mai rhif yw'r peth pwysicaf, gall rheswm fynd allan drwy'r ffenest."
'Adnodd hanfodol'
Fe wnaeth Mr Fry wadu fod ei awgrym o wirio pwysau plant wedi'r pandemig gyfystyr 芒 "chodi cywilydd" ar blant.
Ond mynnodd y dylid mesur plant yn rheolaidd mewn ysgolion fel bod modd gweld y pwysau cyn iddo fynd yn broblem.
"Dylid mesur taldra a phwysau yn breifat yn ystafell feddygol yr ysgol, a'i gofnodi gan nyrs yr ysgol neu feddyg," meddai.
"Dylai'r data wedyn gael ei ddefnyddio ar gyfer ymyrraeth feddygol a'i roi i'r teulu."
Ychwanegodd bod mesur plant wedi digwydd mewn ysgolion ers 2005, a bod hynny'n "adnodd hanfodol" i wybod am iechyd plant.
Dywedodd nad oedd gan bobl syniad sut mae'r pandemig wedi effeithio ar bwysau plant oherwydd y cyfnod clo, ond roedd "yn hollol sicr" y byddai cyfraddau gordewdra'n codi o ganlyniad i'r cyfnod clo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019