大象传媒

Gweinidog yn gadael ei swydd i helpu ffermwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd
wyn thomasFfynhonnell y llun, Wyn Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Parchedig Wyn Thomas yn edrych ymlaen i weithio i elusen Tir Dewi er mwyn helpu ffermwyr ifainc

Dywed y Parchedig Wyn Thomas ei fod yn credu y bydd y stormydd y mae wedi eu profi'n bersonol o help mawr iddo yn ei swydd newydd gydag elusen Tir Dewi.

Tan ddiwedd Awst roedd Mr Thomas yn weinidog Undodaidd ar gapeli br枚ydd Marles a Gwenog yn ardal Llandysul ond mae bellach yn edrych ymlaen at ddechrau ar yrfa fydd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ffermwyr ifanc.

Cafodd elusen Tir Dewi ei sefydlu yn wreiddiol er mwyn helpu ffermwyr gorllewin Cymru mewn cyfnod anodd ac mae hi bellach yn helpu ffermwyr Powys a Gwynedd hefyd.

Ei phrosiect diweddaraf yw ceisio cynnig help i ffermwyr ifanc.

'Ffermwyr ddim yn gofyn am help'

"Fe fyddai i yn adeiladu ar yr hyn y mae'r Ffermwyr Ifanc eisoes wedi ei osod, sef ceisio cael ffermwyr ifanc i siarad am broblemau ac am yr hyn sy'n eu gofidio," meddai Wyn Thomas.

"Rwy'n dod o gefndir amaethyddol fy hunan ac rwy'n gwybod bod ffermwyr yn dueddol o fod yn bobl sy'n cadw teimladau iddyn nhw eu hunain a ddim yn gofyn am help.

"Wrth weithio gyda chenhedlaeth newydd o ffermwyr, fy ngobaith yn yr hirdymor yw sicrhau eu bod yn fwy parod i siarad ac i drafod.

"Rwy'n gobeithio wedyn y byddan nhw'n declyn i gael ffermwyr h欧n i siarad ac i drafod problemau a gofidiau."

Ffynhonnell y llun, Wyn Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Cyn fy salwch ro'n i'n arfer cwato fy mod yn hoyw," medd Wyn Thomas, sydd bellach yn briod 芒 Matthew Walters

Er nad yw bywyd yn ystod 15 mlynedd yn y weinidogaeth wastad wedi bod yn hawdd i'r Parchedig Wyn Thomas, dywed y bydd yn hiraethu am ei swydd fel gweinidog.

"Fe fyddai'n colli cael cwpaned o de gyda'r aelodau, y croeso a rhoi'r byd yn ei le," meddai.

'Ro'n i'n arfer cwato bo fi'n hoyw'

Ddwy flynedd yn 么l derbyniodd Mr Thomas negeseuon cas ar-lein yn ymosod ar ei rywioldeb a thair blynedd cyn hynny bu'n ddifrifol wael wedi i'w arennau stopio gweithio dros nos.

"Fe wnaeth y salwch ofnadwy yna wneud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol," meddai.

"Ar 么l hynna roeddwn i'n llawer fwy parod i 'neud be dwi isio 'neud mewn bywyd a dyna a berodd i fi fod yn fwy agored am fy rhywioldeb.

"Cyn hynny ro'n i eisiau cwato bo fi'n hoyw, eisiau cadw pethe'n dawel ond ar 么l bod yn s芒l neu wrth ddelio gyda'r salwch fe wnes i'r penderfyniad bod yn rhaid i fi fyw y bywyd ro'n i am ei fyw a bywyd o'dd rhaid i fi fyw.

"Fi'n ddiolchgar bob dydd fy mod wedi 'neud hynny. Chi'n bendant yn dod mas ochr draw y storm - yn edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol a mwy clir.

"Rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiadau i yn help i fi yn y swydd newydd. Wy'n edrych mla'n yn fawr i wasanaethu ffermwyr ifanc ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae hi mor bwysig siarad a rhannu profiadau.

"Dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd. Ond dwi ddim wedi colli fy ffydd ac fe fyddaf yn parhau i gynnal gwasanaethau."

Bydd cyfweliad y Parchedig Wyn Thomas yn llawn ar Bwrw Golwg am 12:30 ar Radio Cymru ddydd Sul.