Achubiaeth i Reilffordd Ffestiniog wedi'r cyfnod clo
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n ceisio gwarcho treftadaeth rheilffyrdd y gogledd yn dweud eu bod wedi gorfod brwydro am eu dyfodol pan ddaeth eu hincwm i ben oherwydd Covid-19.
Mae Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru'n dweud eu bod wedi methu talu am waith atgyweirio pan fu'n rhaid iddyn nhw gau yn ystod eu tymor prysuraf oherwydd y cyfnod clo.
Maen nhw nawr wedi cael grant argyfwng o 拢250,000 gan y Loteri Genedlaethol.
Heb yr arian, dywedodd y rheolwr Paul Lewin na fydden nhw wedi medru "gwneud gwaith pwysig iawn".
Mae'r cwmni'n rhedeg gwasanaethau ar lein Ffestiniog rhwng Porthmadog a Than y Bwlch, a hefyd ar lein Ucheldir Cymru rhwng Caernarfon a Beddgelert.
Ond daeth y gwasanaethau i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth gan olygu colli incwm y tymor prysuraf i dwristiaid dros yr haf.
Mae'r gwasanaeth wedi dychwelyd, ond gyda nifer yn llai o deithwyr oherwydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, a dywedodd y cwmni nad oedden nhw'n medru talu am waith pwysig i warchod y lein ac adeiladau.
Mae'n un o nifer o reilffyrdd ar draws y DU i dderbyn arian Loteri o'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.
Dywedodd Mr Lewin: "Heb yr arian yma, fydden ni fyth wedi gallu fforddio parhau gyda'r gwaith pwysig eithriadol yma ar 么l colli pedwar mis o'n tymor prysur.
"Fe ddaeth Covid-19 芒'n holl ymdrechion i stop yn sydyn, ac fe allai hynny fod wedi bod yn niweidiol iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020